Natalie Lintern

Enillydd Gwobr Dysgu fel Teulu
Enwebwyd gan: Springboard, Sir Benfro yn Dysgu, Cyngor Sir Penfro

Mae dysgu fel teulu wedi trawsnewid bywydau Natalie Lintern a’i theulu. Ar ôl sawl perthynas ble’r oedd yn cael ei cham-drin, a brwydro yn erbyn dibyniaeth ar gyffuriau, roedd yn magu ei thri phlentyn ar ei phen ei hun. “Roedd bywyd yn boen”
meddai. Aeth i deimlo’n unig, a’i diffyg hyder, hunan barch isel a gorbryder yn ei rhwystro rhag gadael y tŷ.

Am chwe mis wnaeth Natalie ddim agor y llenni a welodd hi neb y tu allan i’w chartref. Roedd wedi dechrau cymryd cyffuriau yn 16 oed ac yn ddiweddarach dechreuodd gymryd heroin “Y chwe mis hynny oedd cyfnod isaf fy mywyd,” meddai. “Roedd dau o fy mhlant yn yr ysgol a’r feithrinfa, felly dim ond y babi a fi oedd gartref. Roeddwn trwy’r adeg yn gofalu am fy mhlant, roedden nhw bob amser yn cael eu bwydo a’u hymolch ond bodolaeth oedde, nid bywyd.”

Nawr mae Natalie yn symud ymlaen ac ar ei ffordd i ddod yn weithiwr cymorth cyffuriau ar ôl cofrestru ar gyfer rhaglen dysgu fel teulu. “Roedd gan fy mhlentyn hynaf broblemau rheoli dicter a byddai’n dod adref o’r ysgol ac aros lan trwy’r nos ar y cyfrifiadur,” meddai. “Doedd fy mhlentyn bach ddim yn gallu siarad na gwneud sŵn.

Doedden ni ddim yn darllen, doedd dim llyfrau, doeddwn i’n cael dim amser o ansawdd da gyda fy mhlant. Roeddwn i ofn am fy mywyd y byddai fy mhlant yn cael eu cymryd oddi arnaf ond doeddwn i ddim yn gadael i neb ddod i mewn i’r tŷ, felly doedd neb yn gwybod fod pethau mor wael.”

Dyna pryd y penderfynodd Natalie fod rhaid iddi gael cymorth. Symudodd ei mam i fyw ati a chysylltodd gyda gweithiwr cymorth Dechrau’n Deg. Dechreuodd gael cwnsela a chysylltodd ag ysgol ei phlant am y tro cyntaf ers misoedd. Dywedodd athrawon wrth Natalie am Sbardun a Dysgu fel Teulu a dechreuodd ymuno ag un o’u sesiynau rheolaidd. Cofrestrodd Natalie ar gyfer y sesiynau wythnosol.

“Roeddwn i mewn braw,” meddai. “doeddwn i erioed wedi ymwneud gyda rhieni eraill na’r staff ond bob tro’r oeddwn i’n mynd i’r sesiwn roeddwn i’n teimlo’n well. Rwy’n cofio’r trip ysgol cyntaf, ar draeth rhewllyd, ac roeddwn i mewn panic llwyr. Ond roedd rhywbeth ynglŷn â’r ffordd oedd y plant yn ymateb a wnaeth i mi ddal i fynd yn ôl.”

Dros yr ychydig wythnosau nesaf bu Natalie a’i theulu yn gwneud barcudiaid ar y traeth, ymdrochi mewn pyllau glan môr, a choginio ar danau agored. “Fe wnaethon ni bethau nad oedden ni erioed wedi eu gwneud fel teulu cyn hynny. Fe ddysgon ni gyfeiriannu, trochi pyllau a chelf bywyd gwyllt, cerdded yn droednoeth ar lwybrau mwdlyd a gwneud bara. Ond fe roddodd reswm i mi adael y tŷ.

Fe wnes ffrindiau, tyfodd fy hyder, roedd fy mhlant yn mwynhau pob eiliad, erbyn yr haf roedden ni’n bwyta teisen ar y traeth ar ddiwrnod pen-blwydd fy merch fach.” Rhoddodd dysgu fel teulu yr hyder i Natalie gwblhau Pecyn Cymorth Adfer 12 wythnos i oroeswyr trais yn y cartref oedd yn cael ei gyflenwi. Ers hynny mae wedi mynychu cyrsiau teulu Sbardun eraill a dau gwrs ychwanegol – rhaglen Mpower i fenywod gyda hunan barch isel a rhaglen Rhianta Blynyddoedd Cynradd.

Mae’n mynd â’i phlant i’r ysgol bob dydd – mae presenoldeb y ddau hynaf wedi cyrraedd 100%. “Mae fy mab yn gwneud yn dda iawn, mae’n dod adref yn hapus ac yn ffaelu aros i wneud ei waith cartref. Mae siarad fy merch yn wych – yn wir dyw hi byth yn stopio! Mae’r ifancaf yn mwynhau darllen – rwyf innau’n darllen nawr hefyd, allaf i ddim rhoi’r gorau iddi! Ddylai fy mhlant ddim bod wedi diodde’r hyn maen nhw wedi gorfod mynd trwyddo, ond nawr mae lan i fi ein cadw ni ar y llwybr yma.”

Gyda chymorth Cymunedau am Waith mae Natalie, sydd nawr yn glir o gyffuriau ers 18 mis, ar fin dechrau ar hyfforddiant i ddod yn weithiwr cymorth cyffuriau cymwysedig. Mae’n dweud, “Rwyf eisiau helpu pobl eraill a all weld eu hunain yn fy stori i. Rwyf eisiau i bobl sy’n mynd trwy broblemau weld sut gwnes i drawsnewid pethau. Mae’r rhwydwaith cymorth gefais i wedi bod yn rhyfeddol ac fe fyddwn i’n annog pobl eraill i ofyn am help. Rwy’n teimlo’n gyffrous ynglŷn â’r dyfodol.”

  • Welsh Government
  • OU_Master_Wales_LOGO_BLUE_125mm - NEW logo 2023
  • ALW-colour - standalone - NEW
  • AC FC Port (no strap)
  • Logo_Porffor_RGB Centre for Learning Welsh
id before:12008
id after:12008