Myfyrwyr Nyrsio y Brifysgol Agored yn Nghymru

Enillydd Gwobr Sgiliau yn y Gwaith
Enwebwyd gan:  Y Brifysgol Agored yn Nghymru

Mae myfyrwyr nyrsio yn y Brifysgol Agored yng Nghymru a benderfynodd gefnogi gweithwyr rheng-flaen y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ystod y pandemig tra’n dal i astudio wedi ennill gwobr bwysig.

Mae rhaglen cyn-cofrestru myfyrwyr nyrsio yn y Brifysgol Agored yng Nghymru wedi ei lledaenu dros bedair blynedd. Mae’r myfyrwyr eisoes yn weithwyr cymorth, gan orffen eu BSc mewn nyrsio wrth ochr eu swyddi presennol, anodd.

Pan darodd y pandemig coronafeirws yng ngwanwyn 2020, gofynnodd yr Ysgrifennydd Gwladol i’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth i ryddhau myfyrwyr nyrsio i gefnogi’r GIG. Dan y trefniant hwn, roedd myfyrwyr nyrsio yn ail gam a thrydydd cam cynnar eu graddau yn gymwys. Ar wahân i’r rhai oedd ar yr rhestr warchod am resymau iechyd, roedd pob un o’r myfyrwyr nyrsio cymwys yn y Brifysgol Agored eisiau bod yn rhan o’r ymateb – er eu bod yn gorfod cydbwyso gofynion gweithio oriau hir ar y rheng flaen gyda pharhau eu hastudiaethau ar ôl dychwelyd adref.

Symudodd Ewa Smaglinska i ogledd Cymru o Wlad Pwyl yn 2010 ac mae’n astudio i ddod yn nyrs iechyd meddwl. Dywedodd: “Bu’n anodd iawn yn ystod y pandemig. Mae cael ein cydnabod am sut y wnaethom wthio trwodd a goresgyn hyn, wrth ochr ein hastudiaethau, yn teimlo’n wych.

Ychwanegodd, “Roeddwn wedi gorffen fy mlwyddyn gyntaf o nyrsio cyn y pandemig. Roedd yn benderfyniad rhwydd i fi pan gefais y cais. Mae medru helpu pobl eraill ac achub bywydau yn bwysicach na dim. I fyfyrwyr nyrsio, roedd y pandemig coronafeirws yn gyfle i chwarae ein rôl mewn moment fyd-eang hanesyddol ac i ddatblygu ein sgiliau gofal nyrsio mewn ffordd efallai na fyddem byth yn ei brofi eto.”

Pan gafodd y lleoliadau oedd ganddi ar y gweill eu canslo, dechreuodd Ewa weithio ar ward iechyd meddwl gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Meddai: “Roedd pethau yn symud mor gyflym. Roedd ein dealltwriaeth o’r coronafeirws yn newid, arferion meddygol yn esblygu, nifer y cleifion yn codi’n gyflym, ac roedd staff eu hunain mewn ac allan o’r gwaith oherwydd bod Coronafeirws arnynt hwythau hefyd. Roeddwn bob amser yn bryderus am ddal y feirws a dod ag ef adre gyda fi. Doedd dim llawer o fywyd personol chwaith – dim ond gwaith, astudio ac yna gysgu. Ond fe aeth pawb ohonon ni drwy’r pethau hynny  ac roeddwn bob amser yn teimlo’n falch i wneud fy mhwt i wneud gwahaniaeth.

“Fe ddaethom drwyddi drwy fod yn ymroddedig i helpu pobl a cheisio bod mor gadarnhaol ag sydd modd. Fedrwn ni ddim bod wedi ei wneud heb gefnogaeth y nyrsys cofrestredig. Roeddent yn fy nhrin fel aelod cyfartal a gwerthfawr o’r tîm – fedra i ddim credu faint o wybodaeth a phrofiad a gefais drwy fod yn eu canol.”

Bu’n anodd iawn yn ystod y pandemig. Mae cael ein cydnabod am sut y wnaethom wthio trwodd a goresgyn hyn, wrth ochr ein hastudiaethau, yn teimlo’n wych

Gyda chefnogaeth

  • Welsh Government small
  • OU_Wales_Logo_Dark_Blue
id before:8674
id after:8674