“Mae tiwtora a mentora yn bwysig i mi gan ei fod yn caniatáu i mi sicrhau bod gan staff yr offer i wneud eu gwaith a’i wneud yn dda. Rwy’n cefnogi dysgwyr drwy gydol y cymhwyster a thu hwnt, er mwyn cymhwyso’n llawn yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu i alluogi canolfannau dysgu seiliedig ar waith y GIG i fodelu arfer gorau drwy gydol eu darpariaeth ac i werthfawrogi parhad datblygiad proffesiynol.”
Mae Michala Deakin yn chwarae rhan allweddol yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) fel hyfforddwr pwrpasol ar gyfer aseswyr ac Aswirwyr Ansawdd Mewnol (IQAs) ar draws GIG Cymru. Mae ei rôl yn cynnwys dull Cymru gyfan o addysgu, darparu a gweithredu rhaglen safonol sy’n sicrhau dull cyson o gymhwyso arferion gorau a safon gofal drwy’r system gofal iechyd. Mae ymrwymiad Michala yn ymestyn y tu hwnt i hyfforddiant cychwynnol. Mae hi wedi sefydlu rhwydwaith cymheiriaid ledled Cymru a system gymorth barhaus i helpu aseswyr ac IQAs newydd i roi eu cymwysterau ar waith yn hyderus wrth gadw at safonau sicrhau ansawdd.
Trwy gydol cyflwyno’r dyfarniadau aseswyr ac IQA, mae Michala yn mentora ac yn sicrhau lles pob dysgwr trwy gefnogaeth ac adborth parhaus. Mae hyn wedi cael effaith enfawr ar ymgysylltu, gan ddarparu profiad cadarnhaol i’r holl aseswyr newydd feithrin cymhwysedd a hyder. Dywedodd adborth gan un o’r byrddau iechyd eu bod bellach yn gweld cyfradd cyflwyno asesiadau gwell o dros 80% lle’r oedd y cyflwyniad cyn hynny mor isel ag 20%.
Mae Michala yn hyrwyddo dysgu gydol oes drwy bwysleisio pwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus ac ymarfer myfyriol. Mae hyn yn grymuso dysgwyr nid yn unig i fodloni ond rhagori ar y safonau cyflenwi disgwyliedig.