Mae Melanie Lloyd yn diwtor sy’n arwain ar gyflwyno Hyfforddiaethau yn ACT. Mae’n gweithio gyda phobl ifanc 16-18 oed i gyflwyno cymwysterau cyflogadwyedd i’w helpu i symud ymlaen i ddysgu pellach, prentisiaeth neu gyflogaeth.
Dywedodd,
Cafodd llawer o’r bobl ifanc broblemau cymhleth a effeithiodd ar eu dysgu – profiadau negyddol yn yr ysgol, diffyg hyder, problemau iechyd meddwl neu anghenion dysgu ychwanegol sy’n rhaid eu cefnogi.
Fel llawer o diwtoriaid eraill, mae Melanie wedi ymateb i’r pandemig coronafeirws drwy addasu ei dulliau addysgu. “Dros y flwyddyn ddiwethaf cawsom i gyd ein herio i feddwl yn wahanol am gynnal ein darpariaeth a chefnogi ein dysgwyr. Rwyf wedi gorfod meddwl am bob dysgwr a sut i’w cefnogi i fanteisio i’r eithaf ar yr hyn a wnaethom ar-lein. Rwyf wedi lleisio cyflwyniadau PowerPoint ac ychwanegu fideos YouTube i wneud y dysgu yn hygyrch i bawb.”
Daw llwyddiant Melanie o feddwl am bob profiad dysgu fel meithrin sgiliau bywyd gwerthfawr ar gyfer pob un o’i dysgwyr, gan ei gwneud yn flaenoriaeth i gynllunio’r camau nesaf gyda phob person ifanc i roi perchnogaeth i bobl ifanc a’u cynnwys ym mhopeth a wnânt.
“Mewn bywyd, wnewch chi byth gofio popeth a ddysgwyd i chi, ond byddwch bob amser yn cofio sut y gwnaed i chi deimlo.”