Mary Murray
Torfaen Adult Community Learning

Mary Murray_26

Mae Mary Murray yn diwtor Sgiliau Hanfodol a TGAU Rhifedd gydag enw da am ragoriaeth. Mae ei dosbarthiadau bob amser yn llawn ac mae dysgwyr yn gofyn am gael mynychu ei sesiynau oherwydd iddynt glywed amdanynt gan ffrindiau, perthnasau neu gymdogion.

Er mai ei huchelgais oedd bod yn athrawes mathemateg, dilynodd Mary lwybr gyrfa gwahanol ond ar ôl mynychu dosbarthiadau addysg oedolion i wella ei sgiliau cyfrifiadurol, cafodd ei hysbrydoli i feddwl y gallai addysgu oedolion. Ar ôl gwirfoddoli mewn dosbarth mathemateg, enillodd dystysgrif TAR a chyflawni ei nod.

Daeth Mary y person mynd-ati yn Dysgu Oedolion yn y Gymuned Torfaen ar gyfer tiwtoriaid mathemateg i gael cyngor ac arweiniad ar reoli ystafell ddosbarth, dulliau cyflwyno ac ansawdd.  Mae’r gefnogaeth hon yn ymestyn i diwtoriaid y tu allan i’r fwrdeistref a ddaw ati i ddatblygu eu darpariaeth eu hunain. Dywedodd,

Fe nghenhadaeth yw dangos i ddysgwyr y gall mathemateg fod yn hwyl ac nid y pwnc brawychus y credent ei fod pan oeddent yn yr ysgol. Nid yn unig y bydd yn helpu i gadw eu meddyliau’n effro, bydd hefyd yn rhoi rhyngweithio cymdeithasol. I rieni mae’n ffordd o gadw lan gyda’u plant ac mae’n aml yn arwain dysgwyr i feddwl mwy am eu gyrfaoedd.”

Mae llawer o enghreifftiau o ddysgwyr sydd wedi cyflawni a symud ymlaen i lefelau uwch o ddysgu – nid oedd gan un dysgwr unrhyw gymwysterau, ar ôl ymuno â dosbarth Mary symudodd ymlaen i’r dosbarth TGAU, cafodd radd yn ddiweddarach ac mae ganddi bellach swydd mewn ysgol. Daeth y dysgwr yma’n eiriolwr rhagorol dros  addysg oedolion ac mae’n annog y rhieni yn yr ysgol i ddychwelyd i ddysgu.

Nid ennill cymwysterau yw’r unig fesur o lwyddiant Mary ac mae llawer o’i dysgwyr wedi sicrhau sgiliau bywyd pwysig. Mae effaith ei gwaith yn amlwg yn y dysgwr nad yw mwyach yn gorfod gofyn i weithwyr siop gymryd arian o’i phwrs oherwydd na fedrai weithio mas faint o arian i roi neu’r dysgwr a all ddarllen amserlen ac yn treulio llai o amser yn y safle bws yn gobeithio y daw’r bws cywir.

Diolch i'n partneriaid

  • ColegauCymru colour
  • Unis Wales
  • NTFW-Logo-CMYK-text
  • Agreed logo
  • Logo_Porffor_RGB-Centre-for-Learning-Welsh-300x121
  • Welsh Government
id before:7578
id after:7578