Mae Mary Jones yn addysgu Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gyfer Addysg Oedolion Cymru, swydd fu ganddi am dros 15 mlynedd.
Fel person Byddar, mae Mary wedi addasu ffyrdd creadigol o addysgu, gan ei galluogi i gysylltu gyda’i dysgwyr. Mae’n addysgu dosbarthiadau o rieni, gofalwyr a theuluoedd plant Byddar neu awtistig.
Dywedodd Mary: “Mae ehangu mynediad i gyfleoedd BSL yn bwysig i fi ac mae gwybod fod fy ngwaith wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn dal i fy nghymell. Rwyf wrth fy modd yn dysgu ac eisiau i bob myfyriwr fwynhau eu hamser gyda fi.”
Mae Mary bob amser yn edrych am ffyrdd i ddiweddaru ei sgiliau addysgu ac ennyn diddordeb ei dysgwyr. Addasodd i gyflwyno cyrsiau ar-lein yn ystod y pandemig, gan ddefnyddio llwyfannau dysgu newydd a chanfod ffyrdd gwahanol i gyflwyno BSL.
Roedd y cyrsiau ar-lein yn llwyddiannus iawn gyda dysgwyr presennol a hefyd yn denu dysgwyr newydd. Mae llawer o’r cyrsiau yn gysylltiedig gyda chyflogaeth gyda rhai dysgwyr yn mynd ymlaen i weithio mewn ysgolion i gefnogi plant gydag awtistiaeth.
Mae cyfathrebu BSL yn hanfodol ar gyfer teuluoedd gyda phlant Byddar. mae’n cael effaith enfawr ar eu bywyd teuluol, eu gallu i ddatblygu a symud ymlaen yn yr ysgol ac i deimlo mewn cysylltiad.
Mae Mary yn awr yn edrych ymlaen at ymddeol a dywedodd: “Rwy’n 70 oed erbyn hyn ac wedi penderfynu ei bod yn amser ymddeol – byddaf yn ei golli. Wn i ddim beth fyddaf yn ei wneud nesaf, ond byddaf bob amser yn annog pobl i gymryd diddordebau newydd a datblygu eu sgiliau. Rwy’n gwirioneddol gredu y dylem ddal ati i ddysgu beth bynnag ein hoed. Mae mor dda i’n hiechyd a’n lles.”