Martin White - Grŵp Colegau NPTC

“Byddaf bob amser yn ceisio cynnal yr arwyddair ‘nid wrth ei glawr y mae adnabod llyfr’, gan fod pawb yn dod gyda thapestri cyfoethog o brofiadau a straeon i’w hadrodd. Y peth pwysicaf i mi fel tiwtor oedd eu bod nhw i gyd yn teimlo bod croeso iddynt a’u bod nhw’n cael eu parchu beth bynnag eu cefndir neu eu profiadau dysgu blaenorol. Yn ystod yr amser rwyf fi wedi ymgymryd â’r sesiynau hyn rwyf wedi dysgu cymaint. Mae angen i chi allu addasu a bod yn barod i newid eich dull cyflwyno i weddu i’r person o’ch blaen. Mae dysgu i mi yn ffordd arall o ymarfer corff a chadw eich meddwl yn ffres a gweithio.” 

Martin White-1

 

Martin White yw Rheolwr Ffreuturiau Grŵp Colegau NPTC, sy’n arwain ar y gwasanaethau arlwyo ar draws holl safleoedd y campws. Gyda dros 30 mlynedd o brofiad mewn lletygarwch, mae ar hyn o bryd yn arwain tîm o 30 yn ei adran yn y coleg.

Gan ddangos ei frwdfrydedd dros rymuso ei dîm, fe wnaeth Martin ennill ardystiadau gan Highfield ac RSPH i ddod yn hyfforddwr hylendid bwyd cymwys. Mae hyn yn caniatáu iddo ddarparu hyfforddiant hanfodol yn uniongyrchol i’w dîm, gan sicrhau bod eu sgiliau’n gyfoes.

Cafodd Martin gyfle cyffrous i gyflwyno sesiwn goginio ymarferol yn cynnwys cymhwyster lefel 1 Hylendid Bwyd, wedi ei deilwra i ddiwallu anghenion y dysgwyr fel rhan o’r Ysgolion Bro ym Mhowys. Ariannwyd y prosiect gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU gyda’r nod o annog a chefnogi teuluoedd i ddysgu o’r newydd a datblygu sgiliau newydd ar gyfer cyflogaeth.

Mae Martin yn canolbwyntio ar greu amgylchedd croesawgar a pharchus i ddysgwyr o wahanol gefndiroedd, galluoedd a phob proffesiwn, gan fod llawer o’i ddysgwyr yn bryderus am weithio tuag at gymhwyster oherwydd profiadau cyfyngedig neu negyddol yn y gorffennol. Mae’n meithrin lle diogel iddyn nhw adeiladu perthynas, gweithio ar y cyd, a rhannu eu profiadau.

Profodd y prosiect hwn yn llwyddiant, gyda dysgwyr yn magu hyder, cofrestru mewn cyrsiau newydd, gwneud cais am swyddi, a hyd yn oed sefydlu gweithgareddau ar ôl ysgol.

Diolch i'n partneriaid

  • NTFW-Logo-CMYK-text
  • Agreed logo
  • AC-FC-Port-no-strap-300x355
  • Logo_Porffor_RGB-Centre-for-Learning-Welsh-300x121
  • New purple logo - unis wales
  • Welsh Government
id before:14203
id after:14203