“Rwy’n credu fod tiwtora ynglŷn a darparu cymorth ac arweiniad wedi ei bersonoli i ddysgwyr o bob cefndir a meithrin perthynas gyda fy nysgwyr yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch at ein gilydd. Mae’n ymwneud â deall eu hanghenion unigryw, eu helpu i oresgyn adfyd, a’u hysbrydoli i gyflawni eu huchelgais.”
Mae Martha Holman yn diwtor mewn Addysg Sylfaenol Oedolion a Sgiliau Hanfodol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Mae ei hymroddiad i addysg oedolion a’i hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb a gwrth-hiliaeth yn flaenllaw yn ei gwaith.
Cafodd Martha ei henwebu gan Rebecca Preece o Goleg Caerdydd a’r Fro, a disgrifiwyd ei thaith fel un o gydnerthedd ac eiriolaeth. Dywedodd, “Mae ei stori yn un o drechu adfyd, hyrwyddo cydraddoldeb a chael effaith
barhaus drwy addysg. Mae’n wir yn ysbrydoliaeth.” Mae llwybr Martha o Zimbabwe i Brydain yn dangos
ei phenderfyniad. Wynebodd rwystrau sylweddol ar ôl cyrraedd, yn cynnwys diffyg gallu yn y Saesneg a lesteiriodd ei gallu i ddilyn ei gyrfa addysgu. Serch hynny, dechreuodd Martha ar daith drawsnewidiol, gan gymryd swyddi cyflog isel tra’r oedd yn dysgu Saesneg, gan ailhyfforddi maes o law fel athrawes. Mae ei llwyddiannau academaidd yn cynnwys clod yn ei TAR a’i gradd meistr.
Mae gan Martha angerdd heintus at addysg, gan ei harwain i wneud camau breision wrth feithrin cydraddoldeb drwy ei haddysgu. Bu ganddi rôl ganolog wrth ddatblygu modiwl gwrth-hiliaeth blaengar ar gyfer dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol. Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o amrywiaeth a chynhwysiant, mae’r cwricwlwm hwn hefyd yn rhoi rhan amlwg i fyfyrwyr mewn trafodaethau a chynlluniau sy’n anelu i atal hiliaeth a hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol.
Symudodd llawer o’i myfyrwyr yn llwyddiannus o Lefel Mynediad i gymwysterau Lefel 1 a 2 dan ei harweiniad.
Mae Martha yn meithrin awyrgylch dysgu diddorol a chefnogol, gan gymell ei myfyrwyr i sicrhau cynnydd a chyflawni eu huchelgais. Caiff ei dull deinamig o addysgu sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol ei addasu i ateb
anghenion pob dysgwr, gan sicrhau fod pob un yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.
Tu hwnt i’w llwyddiannau proffesiynol, mae Martha yn arddangos ymroddiad dwfn i’w chymuned a Zimbabwe,
ei mamwlad. Sefydlodd yr elusen ‘Love Zimbabwe’ sy’n rhoi adnoddau hanfodol a chefnogaeth i gymunedau
anghenus yn Zimbabwe. Mae ei hymweliadau mynych i Zimbabwe, ynghyd â chymryd rhan mewn gweithgareddau yn eglwys Stryd y Castell y Fenni, bod yn swyddog Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
ar gyfer Bryniau a Dyffrynnoedd Gwent, a chymryd rhan mewn amrywiaeth o ymdrechion codi arian, yn dangos
ei hymroddiad i gael effaith gadarnhaol yn lleol ac yn fyd-eang.
Dywedodd Martha, “Dyw hi byth yn rhy hwyr i ddechrau neu barhau i ddysgu. Drwy fy mhrofiadau bywyd personol, gallaf helpu fy nysgwyr i ailddarganfod llawenydd a budd addysg.”