Cyllid Newid Eich Stori – ar agor ar gyfer ceisiadau
Mae Wythnos Addysg Oedolion (19 – 25 Medi) yn ymgyrch cenedlaethol sydd yn dathlu ac yn hyrwyddo cyfleoedd dysgu ar gyfer pawb.
Mae’r ymgyrch yn darparu ffocws ar gyfer hyrwyddo cyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol ac i ddathlu dysgu gydol oes. Rydym eisiau arddangos camau yn ôl i ddysgu a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau – ar gyfer gwaith, i gefnogi teuluoedd, ar gyfer llesiant ac ansawdd bywyd.
Eleni, tra’n bod yn addasu ac yn cael adferiad ar ôl pandemig coronafeirws, bydd gŵyl Wythnos Addysg Oedolion yn hyrwyddo cymysgedd o gyrsiau, sesiynau blasu, a sesiynau tiwtorial ar-lein yn ogystal â digwyddiadau allgymorth cymunedol wyneb yn wyneb a chyflwyno cyfunol os yw hynny’n briodol.
Mae’r gronfa hon yn cynnig cymorth i ddarparwyr addysg oedolion i gyflwyno cynnwys a gweithgaredd hyrwyddo allgymorth ar gyfer cyfnod yr ymgyrch a thrwy gydol mis Medi 2022.
Mae grantiau o hyd at £750 ar gael i sefydliadau sydd yn gweithio yng Nghymru sydd yn cyflwyno dysgu gydol oes. Diben y gronfa grant yma yw cefnogi creu sesiynau blasu bach, digwyddiadau dysgu, gweithgaredd allgymorth, dosbarthiadau meistr, llais dysgwyr ac i ddatblygu cynnwys y gellir ei addasu i amgylchedd ar-lein. Gall fod gennych ddiddordeb hefyd yn cyflwyno Diwrnodau Agored ar-lein/wyneb yn wyneb – dylai’r rhain ganolbwyntio ar addysg oedolion. Mae gennym hefyd ddiddordeb mewn dysgu fel teulu ac yn arbennig yn cefnogi unigolion neu gymunedau sydd wedi wynebu heriau sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf.
Hoffem i chi ystyried mynd i’r afael â rhwystrau i ymgysylltu oedolion a theuluoedd ac ysbrydoli mwy o oedolion i ganfod beth sydd ar gael i gefnogi eu taith ddysgu a datblygu eu hyder i ddechrau arni.
Mae gennym ddiddordeb mewn gweithgaredd sydd:
Gellir defnyddio grantiau ar gyfer:
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 8 Ebrill 2022
Anfonwch eich ffurflenni wedi eu llenwi i: alwevents@learningandwork.org.uk