“Rwy’n credu fod grym mewn gwybodaeth, pan fo’r wybodaeth gennych, mae gennych y grym i newid eich bywyd. Mae dysgu yn rhywbeth gydol oes ac rwy’n angerddol am hynny.”
Mae Lyndsey Hughes yn diwtor a rheolwr prosiect hynod yn CYCA – Cysylltu Ieuenctid, Plant ac Oedolion yn Llanelli. Mae’n ymgorffori gwytnwch, ymroddiad a grym addysg. Mae ei thaith o fod yn fam ifanc swil i fod yn diwtor a rheolwr prosiect hyderus yn dyst i’w gwaith caled a’i phenderfyniad, gan ddangos grym addysg i drawsnewid bywydau.
Dechreuodd ei stori yn 2017 pan fynychodd gwrs Cydnerthedd yn y Ganolfan Plant Integredig. Ar y pryd, roedd Lyndsey yn fam ifanc i dri o blant ac yn feichiog gyda’i phedwerydd, ac nid oedd erioed wedi gadael ei phlant o’r blaen. Er ei swildod a’i nerfusrwydd i ddechrau, roedd penderfyniad Lyndsey i wella ei bywyd a chefnogi
ei theulu yn amlwg o’r dechrau.
Roedd Cydnerthedd Lefel 1 Agored Cymru, cwrs cyntaf Lyndsey, yn nodi dechrau ei thrawsnewid. Magodd hyder
yn gyflym, gan gymryd rhan weithgar mewn trafodaethau grŵp a rhannu ei phrofiadau personol fel mam, oedd yn taro tant gyda’r aelodau eraill. Roedd ei hymroddiad i ddysgu yn ddi-ildio, hyd yn oed ar ôl geni ei phedwerydd plentyn. Parhaodd Lyndsey i fynychu cyrsiau, yn aml yn nyrsio ei baban yn ystod sesiynau ac yn gorffen ei llyfrau gwaith adref.
Dywedodd Lianna Davies, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol CYCA: “Rydym yn credu’n gryf fod Lyndsey
yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i bobl eraill, yn arbennig pan fydd yn cyflwyno cyrsiau oherwydd eu bod
wedi byw eu bywydau ac wedi cerdded yn eu hesgidiau.
Nid oes neb sy’n ysbrydoli mwy nac yn anelu’n uwch i gyflwyno cwrs i helpu a chefnogi’r rhai yn y gymuned
i ddechrau ar eu taith eu hunain, ennill cymwysterau a dychwelyd i waith. Mae Lyndsey yn esiampl ardderchog o
lwyddiant.”
Arweiniodd ei hymroddiad a’i hangerdd i helpu eraill at iddi ddod yn “Mam Mentor” ar gyfer CYCA, lle bu’n cyflwyno sesiynau celf a chrefft a chefnogi mamau eraill i ddatblygu ei sgiliau. Dywedodd, “Mae’r cyrsiau rwy’n eu rhoi i gyd yn gyrsiau Lefel 1 a gyda achrediad i helpu a chefnogi’r rhai sydd wedi gadael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau ac sy’n brin o hyder a hunan-dyb.”
Gwelodd dymuniad Lyndsey i hybu ei gwybodaeth a’i sgiliau hi yn cysgodi tiwtoriaid eraill, gan gwblhau cwrs “Hyfforddi’r Hyfforddwr” ac ennill cymhwyster Lefel 3 Egwyddorion Asesu.
Heddiw, mae Lyndsey yn diwtor allweddol yn CYCA, gan gyflwyno’r un cyrsiau wnaeth ei helpu hi ar ei thaith.
Mae ei gallu unigryw i gysylltu gyda dysgwyr, ar ôl cerdded yn eu hesgidiau, yn ei gwneud yn ffigur sy’n ysbrydoli. Mae’n awr yn Rheolwr Prosiect ar gyfer cynllun cronfa Codi’r Gwastad, gan gefnogi’r gymuned i ennill sgiliau newydd i fynd i gyflogaeth. Dywedodd, “Rwy’n ei theimlo’n anrhydedd i helpu a chefnogi dysgwyr newydd ar eu taith, rwy’n angerddol am ysbrydoli a helpu eraill. Os gallaf i gyflawni’r hyn a wnes gyda phedwar o blant bach, gall unrhyw un wneud hynny.”