Lansio hadroddiad - sut y gall dysgu helpu i gynyddu hyder, llesiant a phenderfyniad menywod yng Nghymru?

20 Medi 2023 | 12:30pm

Ar-lein:  Zoom Webinar

 

Mae ymchwil a gyhoeddwyd gan brif elusen cydraddoldeb rhywedd Cymru, Chwarae Teg a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn datgan y llu o fanteision i fenywod sy’n deillio o addysg oedolion. Dengys y canfyddiadau bod canolbwyntio ar ddeilliannau fel cymwysterau yn creu risg o anwybyddu’r gwir werth sydd i addysg oedolion i fenywod wrth gynyddu eu hyder, llesiant a phenderfyniad.

Er bod yr adroddiad yn dangos yn glir beth yw manteision addysg oedolion i fenywod, yn llawer rhy aml mae menywod yn wynebu amrywiaeth o rwystrau ychwanegol a all eu hatal rhag cael mynediad at ddysg ac addysg. Mae cyfrifoldebau gofalu wedi eu cyfuno â diffyg gofal plant o safon uchel, fforddiadwy a hygyrch yn golygu bod defnyddio cyfleoedd i ddysgu yn her neilltuol i lawer o fenywod.

 

Dal i fyny ar y digwyddiad isod

Sleidiau cyflwyniad

id before:12371
id after:12371