Kim Eversham - Dow Silicones UK Cyfyngedig

“Fel tîm, gwyddom mai Amrywiaeth yw gwahodd rhywun i’r parti, Cynhwysiant yw gofyn iddynt ddawnsio, Tegwch yw gwneud lle ar y llawr dawnsio a Perthyn yw gofyn iddynt ddewis y gerddoriaeth.”

kim 5

Kim Eversham fu’r sbardun i ddatblygu cyfleoedd interniaeth â chymorth yn y gweithle yn Dow Silicones UK, cwmni gweithgynhyrchu rhyngwladol.

Ei chenhadaeth fu agor cyfleoedd a chreu gweithlu amrywiol ac egnïol, gan adeiladu’r rhaglen “Pontio i Waith” i feithrin talent a rhoi cyfleoedd cyflogaeth yn eu safle yn y Barri.

Bu’r bartneriaeth gyda Choleg Caerdydd a’r Fro yn datblygu ers 2019, gan lunio cyfleoedd cyflogaeth diddorol ar gyfer dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol. Hyd yma mae dros 50 intern wedi cwblhau eu dysgu gyda thua 60% yn sicrhau cyflogaeth.

Bu rôl Kim yn ganolog i lwyddiant y rhaglen; mentora dysgwyr yn ei rôl fel arweinydd, darparu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau y gellir eu trosglwyddo tebyg i adeiladu tîm, cyfathrebu a rheoli digwyddiadau. Defnyddio dros 40 o fentoriaid cyflogeion ac arweinwyr adrannau i gefnogi interniaid yn y gweithle mewn ystod o ddisgyblaethau.

Effaith ei rôl fu codi uchelgais pobl gydag anghenion dysgu ychwanegol drwy ddylanwadu ar yr adran Adnoddau Dynol i ddarparu rolau swydd a llwybrau prentisiaeth newydd ar gyfer dysgwyr ar y rhaglen interniaeth. Dywedodd, “Bu gan y Rhaglen Interniaeth â Chymorth rôl allweddol wrth sicrhau newid diwylliant yn Dow Silicones UK Cyf. Daeth yn rhan sylfaenol o’n safle, ac mae hynny wedi newid ffyrdd o feddwl a dileu rhagfarnau a stigma gyda’r naratif yn canolbwyntio ar allu yn hytrach nag anabledd.”

Enillodd statws ‘Hyderus am Anabledd’ i Dow Silicones a chaiff ei gweld fel y Llysgennad Dysgwyr dylanwadol
ar gyfer y rhaglen, y sector a’r gymuned fusnes yn ehangach, gan hyrwyddo cynhwysiant, newid canfyddiadau a herio stereoteipiau.

Dywedodd uwch reolwr yn Dow Silicones am Kim, “Mae ei hangerdd naturiol yn ysbrydoli eraill i gymryd rhan ac mae wedi gwneud newid sylweddol i’r safle (Dow Silicones) gyda llawer yn ystyried mae’r rhaglen interniaeth â chymorth yw’r peth gorau i ni ei wneud erioed.”

Fel canlyniad i’r rhaglen cafodd cynllun prentisiaeth blynyddol Dow Silicones UK ei ymestyn i raddedigion y Rhaglen Interniaeth â Chymorth, gan addasu’r asesiadau dechreuol safonol i ddarparu ar gyfer ymgeiswyr gydag
anghenion dysgu ychwanegol.

Meddai Kim, “Mae mentora yn ymwneud â chreu amgylchedd seicolegol ddiogel a chefnogi dysgwyr i ddod â’u hunain yn gyflawn i’r gwaith, dangos eu gwir botensial, dod y fersiynau gorau ohonynt eu hunain a gwireddu eu huchelgais.”

Diolch i'n partneriaid

  • NTFW-Logo-CMYK-text
  • Agreed logo
  • AC-FC-Port-no-strap-300x355
  • Logo_Porffor_RGB-Centre-for-Learning-Welsh-300x121
  • New purple logo - unis wales
  • Welsh Government
id before:16358
id after:16358