Roedd dychwelyd i ddysgu yn her i Kierran, a ddywedodd, “Roeddwn i wastad wedi cysylltu dysgu â’r amser anodd ges i yn yr ysgol pan fu nhad farw.” Yn ystod ei amser ar y cwrs, cafodd ddiagnosis o ddyslecsia nad oedd neb wedi sylwi arno yn yr ysgol. “Roeddwn i bob amser wedi teimlo bod gwaith ysgol yn waith caled ond ar ôl deall pam roeddwn i’n cael trafferth a gwneud newidiadau bach fel argraffu gwaith ar bapur melyn roeddwn i’n gallu cadw i fyny â’r gwaith yn y dosbarth yn well.”
Ffynnodd Kierran yn yr amgylchedd dysgu yma ac ar ôl cwblhau ei Lefel 2 a 3 mewn modiwlau Trwydded A aeth ymlaen i astudio ar gyfer gradd mewn cynnal a chadw awyrennau. Dywedodd Kay Davies, ei diwtor: “Rwyf wedi gweld ei drawsnewidiad o fod yn ddysgwr Addysg Bellach ar gwrs ymarferol yn bennaf Peirianneg Awyrennau i ddysgwr Addysg Uwch hyderus ar gwrs academaidd iawn”.
Ers hynny, mae Kierran wedi siarad mewn ffeiriau gyrfaoedd, wedi ymgymryd â rôl arweinydd tîm ar brosiectau grŵp a sicrhau’r interniaeth gyntaf erioed mewn cwmni cynnal a chadw awyrennau a hyfforddi, Caerdav – sy’n adnabyddus oherwydd ei gysyllltiadau gyda Bruce Dickinson o Iron Maiden.
“Roedd Bruce yn siarad mewn cynhadledd ac es i ato i ofyn am rywfaint o brofiad gwaith – pe baech wedi dweud hynny wrtha i bum mlynedd yn ôl, fyddwn i wedi chwerthin! Mae cefnogaeth ar gael a byddwn yn annog pobl i rannu eu problemau a’u nodau hefyd oherwydd fe fydd pobl yn eich helpu i ddod o hyd i ffordd drwyddi.”