Kerri Ince
Cyngor Caerdydd a’r Fro

BV3A6272

 

Mae Kerri Ince yn addysgu oedolion ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro.

Mae llawer o’i dysgwyr ar lefel mynediad neu lefel 1 ac eisiau cefnogaeth ar gyfer datblygiad personol i bontio o’r coleg i waith.

Bu gwaith Kerri yn y Coleg yn ganolog gyda lansiad llwyddiannus Prosiect SEARCH, rhaglen amrywiaeth a chynhwysiant yn y Barri, sy’n rhoi cyfleoedd interniaeth â chymorth i fyfyrwyr ôl-16 sydd ag awtistiaeth ac anghenion dysgu ychwanegol.

Yn gweithio ar hyn o bryd mewn busnes noddi, yn Dow Silicones, mae Kerri yn rhoi gofod i’w dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau meddal a chyflogadwyedd, gan eu galluogi i ddod yn unigolion annibynnol a hyderus i ddileu eu hofnau a’u pryder yn y gweithle.

Mae llwyddiant y rhaglen hefyd yn dibynnu ar ddatblygu sgiliau a hyder y mentoriaid busnes nawdd. Ers dechrau’r rhaglen mae Kerri wedi cefnogi 64 o reolwyr a mentoriaid yn gweithio gyda dros 70 intern mewn amrywiaeth o adrannau yn Dow Silicones a Phrifysgol Caerdydd.

Mae ymagwedd Kerri at diwtora a mentora yn cadarnhau pwysigrwydd grymuso pobl i ddatgloi eu potensial eu hunain, gan effeitho ar eu holl deulu a’u rhwydwaith ehangach, yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr tai a gweithwyr cyswllt cymunedol eraill.

Bu Kerry wedi wynebu anawsterau yn ei bywyd ei hun hefyd. Dywedodd  “Rwyf wedi gorfod goresgyn llawer o heriau personol yn cynnwys diagnosis o ganser, ond rwyf wedi derbyn triniaeth erbyn hyn ac mae dod yn ôl i’r gwaith wedi rhoi’r ffocws a’r egni i mi barhau i wneud gwahaniaeth.”

Mae Kerri yn batrwm i’w holl ddysgwyr, drwy greu amgylchedd dysgu sy’n diwallu anghenion unigolyn sydd angen gwahanol gymhorthion ac addasiadau sy’n ysgogi, ysbrydoli ac yn ymarferol

“Mae cefnogi rhywun ar hyd llwybr at eu huchelgais a chanolbwyntio ar yr hyn y GALLANT ei wneud yn fy ngalluogi i anfon neges nad yw dysgu yn dod i ben yn yr ysgol a bod dysgu yn rhywbeth gydol oes, a bod pawb yn haeddu ail gyfle, beth bynnag eu lefel academaidd a datblygu.”

Diolch i'n partneriaid

  • NTFW-Logo-CMYK-text
  • ColegauCymru colour
  • Agreed logo
  • New purple logo - unis wales
  • Logo_Porffor_RGB-Centre-for-Learning-Welsh-300x121
  • Welsh Government
id before:10905
id after:10905