Karen Riste - Dysgu Cymraeg Gwent, Coleg Gwent

“Mae fy mhrofiad fy hun yn dysgu Cymraeg yn fy helpu i ragweld yr heriau sy’n wynebu fy myfyrwyr, ac rwy’n gallu esbonio pethau’n glir oherwydd hynny Rwy’n falch nad yw fy nysgwyr yn ofni gofyn cwestiynau – mewn gwirionedd, rwy’n annog hynny! Mae gennym awyrgylch cyfeillgar a hwyliog lle mae pawb yn teimlo’n ddiogel i ofyn cwestiynau a rhoi cynnig ar bethau.”

Karen Riste 2

Dechreuodd taith Karen Riste fel tiwtor Cymraeg yn 1994, wedi ei hysbrydoli gan ei phrofiad ei hun yn dysgu’r iaith. Arweiniodd ei hangerdd dwfn am yr iaith a’i dymuniad cryf i ysbrydoli eraill at iddi gymryd swydd ran-amser fel tiwtor gyda Dysgu Cymraeg Gwent a chyrff eraill yn Ne Ddwyrain Cymru. Datblygodd hynny i fod yn yrfa lawn-amser diwedd y 1990au. Bu’n diwtor llawn-amser gyda Dysgu Cymraeg Gwent ers 2018.

Mae Karen nawr yn diwtor profiadol iawn sy’n rhagori mewn addysgu dysgwyr ar bob lefel yn cynnwys
addysgu ar gyrsiau Cymraeg i’r Teulu, Cymraeg o’r Crud, Cymraeg yn y Gweithle a chyrsiau carlam dwys iawn.

Mae ei haddysgu yn cynnwys gwaith yn y gymuned ac ar-lein. Yn ogystal â’i gwaith addysgu wythnosol, mae wedi
cyfrannu at ddatblygu adnoddau ychwanegol i gefnogi dysgu a bu’r rhain ar gael i diwtoriaid eraill eu defnyddio.
Mae Karen wedi llunio a pheilota cwrs ar-lein dwys iawn ‘Super Fast Track’. Er mwyn sicrhau llwyddiant y ddarpariaeth hon, roedd yn rhaid i Karen addasu cynnwys y cwricwlwm cyfredol ar gyfer pob lefel er mwyn creu cwricwlwm addas. Mae’n awr yn cynnig cyngor a chefnogaeth i’r tiwtoriaid eraill sy’n addysgu ar y cyrsiau hyn.
Dywedodd Sarah Meek, un o’i chydweithwyr, “Un o’r goreuon yw Karen sy’n ysbrydoliaeth i bawb, sef y dysgwyr, y tiwtoriaid a’i chydweithwyr. Mae ei chariad a’i hangerdd at y Gymraeg a’i gwaith dysgu yn heintus iawn.

Mae hi mor frwdfrydig, cyfeillgar, gofalgar a chefnogol a dyn ni mor lwcus ei chael hi fel rhan o’n tîm.” Ynghyd â’i haddysgu, bu Karen yn ganolog wrth fentora cyd-diwtoriaid gan gynnig cefnogaeth, arweiniad a rhannu arfer gorau. Cyfrannodd ei gwaith mentora at lwyddiant llawer o diwtoriaid, ac mae ei hymroddiad i feithrin amgylchedd dysgu cadarnhaol a diddorol yn amlwg drwy ei gwaith y tu mewn a hefyd y tu fas i’r ystafell ddosbarth. Mae‘n defnyddio grŵp WhatsApp ar gyfer cyfathrebu cyson ac yn trefnu sesiynau ymarfer anffurfiol mewn gwahanol leoliadau, o dafarndai i wyliau.

Dywedodd Karen, “Dw i wedi bod yn fentor i sawl tiwtor newydd a’r rhai sy’n newydd i lefel, maen nhw’n cysylltu
â fi i siarad am bethau maen nhw’n becso amdanynt. Gan taw dysgwr Cymraeg o’n i, dwi’n gallu rhagweld problemau ac yn esbonio heb ddefnyddio termau gramadegol. Dw i eisiau i’r dysgwyr wybod bod nhw’n gallu llwyddo i siarad Cymraeg hyd yn oed os nad ydyn nhw’n deall gramadeg.”

Diolch i'n partneriaid

  • NTFW-Logo-CMYK-text
  • Agreed logo
  • AC-FC-Port-no-strap-300x355
  • Logo_Porffor_RGB-Centre-for-Learning-Welsh-300x121
  • New purple logo - unis wales
  • Welsh Government
id before:16388
id after:16388