Cychwyn Arni – Enillydd Gwobr Dechreuwyr Cymraeg
Enwebwyd gan: Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
Pan benderfynodd Josh Osbourne symud i Gymru i fyw gyda’i bartner sy’n siarad Cymraeg, roedd yn bendant ei fod eisiau dysgu’r iaith a dod yn hyderus yn ei siarad.
Felly, ym mis Mai 2020 pan oedd yn gorffen ei radd Meistr ac yn dal i fyw yn Lloegr, dechreuodd Josh ar gwrs arbrofol a gynhaliwyd gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Ar ôl gorffen y cwrs, oedd yn cyfuno dysgu gyda thiwtor gyda hunan-astudiaeth ar-lein, gwyddai Joshua ei fod eisiau dal ati i ddysgu fel y gallai gyflawni ei freuddwyd o ddefnyddio’r iaith yn ei fywyd bob dydd. Felly cofrestrodd am gwrs dwys yn y Gymraeg gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg, a gaiff ei gynnal gan Brifysgol De Cymru ar ran y Ganolfan Genedlaethol.
Dywedodd: “Mae fy mam yn Almaenes felly cefais fy magu mewn cartref dwyieithog. Doedd gen i erioed lawer o ddiddordeb mewn ieithoedd pan oeddwn yn yr ysgol ond roedd yn ymddangos yn beth naturiol y byddwn yn dysgu Cymraeg pan benderfynais symud i Gymru i fyw gyda fy mhartner a’u teulu.
“Mae fy mhartner yn rhugl yn y Gymraeg a theimlwn y byddai dysgu Cymraeg yn ein helpu i ddod yn nes at ein gilydd ac agor ffyrdd newydd o gyfathrebu. Fel pawb arall, rwyf wedi cael y flwyddyn ddiwethaf yn anhygoel o anodd. Roeddwn yn teimlo’n ynysig ac unig ac fe effeithiodd ar fy iechyd meddwl. Fe wnaeth dysgu Cymraeg wirioneddol fy helpu i drin fy iechyd meddwl.
“Penderfynais ddechrau ar y cwrs dwys a gynlluniwyd i helpu pobl ddod yn rhugl mewn dwy flynedd. Mae’n ymrwymiad eitha mawr o ran amser ar naw awr yr wythnos felly mae’r rhan fwyaf o bobl ar y cwrs wedi ymddeol – fi oedd yr ieuengaf ar fy nghwrs.”
Roedd British Isles DBT Training yn Wreccsam, cyflogwr Josh, yn cefnogi ei ddymuniad i ddysgu Cymraeg, gan roi amser iddo yn ystod yr wythnos waith i astudio ac ymarfer.
Dywedodd Josh, “Rwy’n awr ar fin dechrau fy nghwrs chwech wythnos nesaf, a gaiff ei gynnal am bedair awr y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae’n hurt meddwl na fedrwn hyd yn oed ddweud ‘Dw i’n hoffi coffi’ yr adeg hon y llynedd, ond rydw i nawr o fewn misoedd o fedru cynnal sgwrs go iawn yn y Gymraeg.
“Fy nghyngor i unrhyw un sy’n ystyried dysgu iaith yw mynd amdani. Ni fydd yn edifar gennych ac mae llwythi o fuddion. Caiff y cyrsiau eu cynllunio i fod yn hygyrch, a gallwch ddysgu yn gyflym.
“Rwyf wedi cael pob agwedd o fy nghyrsiau Cymraeg yn werth chweil iawn – mae wedi fy helpu drwy bandemig, wedi dod â fi yn nes at fy mhartner ac wedi fy ngalluogi i gynefino â diwylliant Cymru.”