Joseff Oscar Gnagbo

Dechrau Arni: Gwobr Dysgu Cymraeg
Enwebwyd gan: Cyngor Ffoaduriaid Cymru

Cafodd Joseff Gnagbo ei fagu ar y Traeth Ifori, ond bu’n rhaid iddo geisio lloches yng Nghymru oherwydd aflonyddwch gwleidyddol. Meddai: “Roedd fy mamwlad o dan warchae ac roedd o’n frawychus. Roedd yna lawer o ymladd, felly roedd yn rhaid i fi ffoi i rywle diogel.

Doeddwn i’n gwybod dim am Gaerdydd heb sôn am Gymru. Y cyfan roeddwn i wedi’i glywed oedd ei fod yn lle gwyrdd iawn, nad oedd gormod o bobl yma a bod y trigolion yn neis iawn. Dwi wedi byw ymhob cwr o’r byd ac wedi addo i fi fy hun y byddwn i bob amser yn dysgu iaith frodorol y wlad yr oeddwn ynddi.”

Fe wnaeth Joseph drochi ei hun yn niwylliant Cymru, gan ddod yn rhugl yn y Gymraeg ac mae bellach yn addysgu Cymraeg sylfaenol i geiswyr lloches eraill. Roedd wedi gweithio fel ieithydd yng ngorllewin Affrica, yn siarad Ffrangeg, Swahili, Eidaleg, Rwsieg, Almaeneg ac Arabeg hefyd.
Roedd mynd i Ganolfan Oasis yng Nghaerdydd y diwrnod ar ôl iddo gyrraedd Cymru yn help mawr, meddai, ynghyd â’r ap ‘Say Something in Welsh’ wnaeth ei diwtor awgrymu y dylai ddefnyddio. Dilynodd Joseff gyrsiau gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd hefyd, sy’n cael eu cynnal gan Brifysgol Caerdydd ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae dysgu wedi rhoi cymaint o hyder i mi. Trueni na wnes i ddechrau dysgu Cymraeg pan oeddwn i’n iau ond gyda gwaith caled ac ymarfer gall unrhyw ei wneud o. Dwi wrth fy modd gyda’r Gymraeg a dwi eisiau brwydro dros barhad yr iaith gymaint ag unrhyw Gymro brodorol. Mae’n bwysig i’r wlad a dylai barhau’n iaith fyw.”

Mae Joseff bellach yn gweithio fel gofalwr, cyfieithydd ac athro, ac mae’n gwirfoddoli i Gymdeithas yr Iaith. Mae hefyd yn rhoi sesiynau blasu Cymraeg sy’n para hanner awr yng Nghyngor Ffoaduriaid Cymru – ar ôl i ddysgwyr gael awr o hyfforddiant Saesneg.
Aeth ymlaen i ddweud: “Roedd rhai o’m tiwtoriaid yn amheus am ychwanegu’r Gymraeg at y cyrsiau Saesneg.

Roedden nhw’n meddwl y gallai ddrysu pobl. Ond gan fod cymaint o arwyddion yn Gymraeg a bod pobl yn siarad yr iaith, dwi’n meddwl ei bod yn bwysig gwybod y pethau sylfaenol, yn enwedig os ydych chi’n chwilio am waith neu os oes gennych chi blant sy’n mynychu ysgolion dwyieithog. Dwi am barhau i ddatblygu fy sgiliau ac wrth fy modd yn cerdded drwy’r canolfannau lle dwi’n gwirfoddoli a chlywed ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn dweud diolch!”

Cychwyn Allan - Gwobr Dechreuwr Cymru wedi'i noddi gan:

  • Welsh Government
id before:6928
id after:6928