Mae Jos Andrews yn diwtor llawrydd sy’n gweithio gyda Unite the Union a’u rhaglenni gweithle sy’n rhan o Gronfa Dysgu Undeb Cymru.
Roedd effaith y coronafeirws yn golygu fod llawer o weithleoedd yn wynebu dileu swyddi a bu Jos yn rhan o’r tîm yn y 12 mis diwethaf yn cefnogi pobl gydag ailhyfforddi a dynodi sgiliau i’w helpu i ganfod swyddi newydd.
Mae Jos yn gweithio gyda phob person i ddatblygu eu sgiliau cyfweliad, llunio CVs ac yn darparu hyfforddiant i ddynodi’r talentau sydd ganddynt, ond efallai nad ydynt yn sylweddoli hynny.
Dywedodd rhywun a gymerodd ran yn y sesiynau a gyflwynwyd gan Jos, “Roeddech chi a’ch tîm yn newid y gêm yn y tryblith yr oeddem i gyd ynddo. Roedd y cyngor a’r arweiniad a gawsom yn hollol anhygoel. Nawr mae gan y gweithlu rywle i droi, nawr roedd gan bobl ryw deimlad o gefnogaeth ac alla i ddim diolch digon i chi am hynny.”
Mae Jos yn credu fod ffordd syml i ennyn diddordeb pobl a meithrin eu hyder a’u sgiliau. “Mae’n achos o ganfod beth sy’n gweithio iddyn nhw”, meddai.
Cafodd Jos yrfa amrywiol ac mae’n dod â’i holl brofiad i’w swydd bresennol; o sefydlu clybiau disgyblion/rhieni, fel athrawes dan hyfforddiant, ysgrifennu rhaglenni dysgu mawr i’r BBC i gynhyrchu digwyddiadau byw yn y Gemau Olympaidd. Mae hefyd yn awdur Stori Sydyn ac yn llysgennad sy’n ymroddedig i wella sgiliau darllen oedolion.
“Fy nghenhadaeth mewn tiwtora fu canfod ffyrdd creadigol o gymell y rhai y mae prosesau addysg ffurfiol wedi eu digalonni. Yr un fu’r nod gen i bob amser. Rydw i eisiau ennyn diddordeb pobl a chael y gorau mas ohonyn nhw.”