“Rwyf yn wir yn teimlo mor ffodus i fod yn rhan o daith dysgu rhywun arall ac yn ei theimlo’n nanrhydedd os oes unrhyw un yn teimlo mod i wedi cyfrannu at eu twf a’u datblygiad.”
Fel Swyddog Hyfforddiant Dysgu Oedolion Caerdydd, mae Jo Moggridge yn gweithio i bontio’r bwlch rhwng gwybodaeth a chyfle, yn arbennig ar gyfer unigolion sydd wedi profi rhwystrau I addysg.
Dechreuodd taith Jo mewn addysg oedolion gyda’i phrofiadau ei hun yn adran Gwasanaeth Teulu Cyngor
Caerdydd, lle bu’n gweithio’n agos gyda phlant a rhieni. Cafodd dod i gysylltiad â heriau bywyd go iawn a
phwysigrwydd diogelu a deddfwriaeth effaith sylweddol ar ei hymagwedd at addysgu. Gan ddod â’r profiad hwn
i ddysgu oedolion, mae wedi cyfoethogi’r cwricwlwm gyda gwybodaeth ymarferol, gan wneud ei chyrsiau yn
berthnasol a dylanwadol iawn.
Mae ei hymroddiad personol i addysg yn amlwg drwy ei dulliau addysgu arloesol a’i gallu i greu amgylchedd dysgu cefnogol a chynhwysol. Mae Jo yn cyflwyno cyfleoedd dysgu yn y gymuned, mewn ysgolion ac ar-lein.
Caiff ei hadnabod am ei haelioni yn rhannu adnoddau a’i pharodrwydd i helpu tiwtoriaid newydd i ddatblygu yn
eu rôl. Bu ei brwdfrydedd a’i hagwedd gadarnhaol yn allweddol wrth ail-lunio’r tîm Dysgu Oedolion, gan feithrin
amgylchedd o gydweithio lle mae addysgwyr a dysgwyr yn ffynnu.
Mae’r rhan fwyaf o’r dysgwyr sydd wedi ymwneud gyda Jo yn canmol ei harddull addysgu ddiddorol a’i gallu i ysbrydoli hyder, gan eu helpu i oresgyn rhwystrau personol ac addysgol, gan arwain at gynnydd llwyddiannus i gyflogaeth neu ddysgu pellach.
Gyda ffocws ar anghenion dysgwyr, mae Jo wedi arloesi ac addasu darpariaeth i sicrhau y gall pobl gymryd rhan
a datblygu eu sgiliau ar gyflymder sy’n gweddu iddyn nhw ac sy’n cefnogi eu cynnydd. Mae wedi creu llwybr
sy’n arwain dysgwyr hyd at gyrsiau lefel 2 ac ymlaen i’r Academi Cynorthwywyr Addysgu.
Mae ymroddiad Jo yn ymestyn tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, ac mae’n mynd ati i edrych am bartneriaethau gydag ysgolion lleol a mudiadau cymunedol i gyrraedd cynulleidfa ehangach. Mae ei hymdrechion yn datblygu
cyrsiau a llwybrau newydd wedi agor drysau i lawer, yn arbennig i’r rhai a fu allan o addysg am amser maith neu
sy’n wynebu rhwystrau iaith.
Dywedodd, “Ni wnaeth cynifer o oedolion sy’n dod i’n dosbarthiadau fwynhau eu profiad o addysg yn eu plentyndod a gall fod yn anodd iawn ystyried dysgu eto pan fo gennych atgofion negyddol. Rwy’n angerddol am
ddiwallu anghenion pob myfyriwr a byddaf yn addasu fy nulliau i wneud pob sesiwn i deimlo’n gysurus, hygyrch ac yn hwyl i bawb.”