“Rwy’n credu y dylai pawb gael y cyfle i astudio ar lefel uwch er mwyn iddynt ryddhau eu potensial llawn a gwireddu eu breuddwydion. Mae’n ymwneud ag arwain dysgwyr; mae’n ymwneud â’u meithrin i addysg uwch a bod gyda nhw ar hyd y daith honno.”
Howard Wyn Jones, yw Arweinydd Addysg Uwch ar gyfer Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngrŵp NPTC.
Ers ymuno â’r coleg yn 2012, mae Howard wedi trosglwyddo cyfoeth o wybodaeth a phrofiad gan y Gwasanaeth Ambiwlans i wella’r ddarpariaeth Addysg Uwch mewn Gwasanaethau Cyhoeddus yn sylweddol. Mae ei arweinyddiaeth a’i sgiliau cydweithredol yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol a chynhyrchiol, a chwaraeodd ran allweddol yn natblygiad y BA (Anrh) cyntaf mewn Gwasanaethau Cyhoeddus a gynigir gan Goleg Addysg Bellach yng Nghymru.
Mae ymrwymiad Howard yn ymestyn y tu hwnt i ddatblygiad rhaglen. Mae’n creu cyfleoedd dysgu i fyfyrwyr yn gyson, gan ehangu mynediad i ddysgwyr o bob rhan o Gastell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Mae’r ymroddiad hwn yn amlwg wedi cynyddu cyfranogiad AU gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan godi eu dyheadau addysgol a’u harfogi â sgiliau gwerthfawr.
Er mwyn paratoi myfyrwyr ar gyfer senarios yn y byd go iawn, mae Howard yn ymgorffori ymarferion digwyddiadau mawr gyda’r gwasanaethau brys i’r cwricwlwm. Mae’r math hwn o brofiad ymarferol yn caniatáu i fyfyrwyr ennill yr hyder a’r cymhwysedd i wneud cyfraniad ar unwaith wrth ymuno â’r gweithlu.
Nod pynciau’r cwrs megis, arweinyddiaeth, lles, amrywiaeth, ymateb brys, cyllid, profiad gwaith yw arfogi myfyrwyr i gael effaith gymdeithasol gadarnhaol ar y cymunedau y byddant yn eu gwasanaethu.