Mae Heddwen Roberts yn diwtor oedolion gyda Dysgu Cymraeg Ceredigion Powys a Sir Gâr. Mae ganddi radd yn y Gymraeg ac roedd wedi bod yn athrawes, ond daeth yn diwtor Cymraeg ar ôl ymddeol a dychwelyd i Gymru i fyw. Roedd yn gyfnod anodd iddi ar ôl colli ei gŵr, a chollodd ei hyder i fynd allan a chwrdd â phobl.
Mae llwyddiant addysgu Heddwen yn amlwg ym mhoblogrwydd ei dosbarthiadau a chynnydd y dysgwyr. Mae’n addysgu saith dosbarth bob wythnos yn amrywio o fynediad i gymwysterau uwch, gyda thua 60 o ddysgwyr yn mynychu. Yn ogystal â hyn, mae’n dysgu mewn Ysgolion Pasg ac Ysgolion Haf.
Meddai,
Bellach yn ei 70au, pan darodd y pandemig sylweddolodd fod dal ati i ddysgu yn hanfodol ond y byddai hefyd yn her gan fod angen iddi ddysgu sgiliau newydd i addysgu ar-lein. “Pan aethom i gyfnod clo, roeddwn i ddechrau yn dal ati i diwtora drwy’r post a thros y ffôn ,.,.. ac yna soniwyd am Zoom! Roedd gen i lawer i’w ddysgu mewn cyfnod byr i symud i ddysgu ar-lein, ond rwy’n credu mod i wedi ateb yr her ac wedi mynd â’r myfyrwyr gyda fi!.
“Rydw i’n cael gymaint o bleser o addysgu – mae’n llawer mwy na dim ond swydd. Mae’r dysgwyr yn fy ysbrydoli! Mae hiwmor a chwerthin yn helpu hefyd.”