Felicity Roberts
Dysgu Cymraeg, Prifysgol Aberystwyth

Felicity Roberts - resized image - landscape

Mae Felicity Roberts yn Diwtor a Chydlynydd Cymraeg i Oedolion yn Dysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae wedi bod yn diwtor Cymraeg am dros hanner can mlynedd. Un o Chwilog yn Eifionydd ydy hi yn wreiddiol fodd bynnag, a bu ei magwraeth yno yn ysbrydoliaeth iddi ar hyd ei hoes.

Ers dechrau ei gyrfa yn 1968, mae wedi dysgu myfyrwyr o bob oedran, ar bob lefel, o ddosbarthiadau Mynediad hyd at lefel Gloywi Iaith.

Mae’n credu’n gryf yn yr egwyddor o ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned, yn ogystal ag yn yr ystafell ddosbarth, a bod tiwtoriaid fel hi, yn paratoi eu dysgwyr i allu cymryd rhan yn Gymraeg, ochr yn ochr â siaradwyr Cymraeg cynhenid mewn gweithgareddau difyr. Drwy hyn mae’r siaradwyr newydd yn cael eu tywys i ganol y diwylliant Cymraeg.

Ffurfiodd Felicity Gôr Cyd yn yr wythdegau ac mae’n dal i fynd. Fel mae’r enw yn awgrymu, côr yw hwn lle mae dysgwyr a Chymry Cymraeg yn dod ynghyd i gymdeithasu a dysgu canu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r côr yn cael eu gwadd i gynnal adloniant i wahanol gymdeithasau ac i gymryd rhan mewn digwyddiadau cyhoeddus yn lleol. Maen nhw hefyd wedi cystadlu mewn eisteddfodau lleol yn ogystal â bod wedi cael y wefr o fod ar lwyfan mawr yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae hefyd yn cefnogi ei dysgwyr i baratoi ar gyfer arholiadau, ac mae hynny’n cynnwys arholiadau Gorsedd y Beirdd. Mae nifer dda o’i myfyrwyr yn ogystal wedi ennill Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gyda marc rhagoriaeth. Mae’r Coleg Cymraeg yn arwain y ffordd wrth ddatblygu Addysg a hyfforddiant y sector Addysg Uwch a Phellach yng Nghymru.

Fel i rannau eraill o gymdeithas, daeth pandemig Covid â heriau sylweddol. Er gwaethaf hyn, fe ddysgodd tiwtoriaid Cymraeg sut i wneud eu gwaith ar-lein, a denodd y cyrsiau ar Zoom fyfyrwyr ychwanegol o bob rhan o’r byd.

Dywedodd Felicity: “Ym Mhrifysgol Aberystwyth ‘dyn ni’n trefnu Cwrs Haf Dwys Preswyl ers blynyddoedd, ac fel Cydlynydd y cwrs hwnnw, bydda i’n gyfrifol am drefnu gweithgareddau Cymraeg ategol gyda’r nos yn ogystal â’r rhaglen ddyddiol o wersi. Byddaf hefyd yn trefnu i siaradwyr rhugl ddod i sgwrsio â’r myfyrwyr yn wythnosol. Wedi bod yn cynnal y cwrs ar Zoom am dair blynedd, eleni bydd y myfyrwyr eto yn dod am fis i Aberystwyth i ddysgu Cymraeg.”

Aeth ymlaen i ddweud, “Mae nifer o’r rhai sydd wedi dod yn rhugl yn cynnal gweithgareddau eu hunain yn y gymuned. Dw i wrth fy modd pan mae fy nysgwyr i yn dod yn unigolion sydd yn angerddol dros ddefnyddio’r Gymraeg, ac yn ei hyrwyddo ar bob cyfle. Mae hynny yn ysbrydoliaeth o’r newydd i mi.”

 

 

Diolch i'n partneriaid

  • NTFW-Logo-CMYK-text
  • ColegauCymru colour
  • Agreed logo
  • New purple logo - unis wales
  • Logo_Porffor_RGB-Centre-for-Learning-Welsh-300x121
  • Welsh Government
id before:10916
id after:10916