Elisha Hughes - Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

“Yn aml mae ffocws ar godi uchelgais unigolion o gefndiroedd sy’n cael eu tangynrychioli. Fodd bynnag, dydyn ni ddim yn brin o uchelgais – ond rydyn ni’n wynebu mwy o rwystrau a mynediad anghyfartal i gyfleoedd. I ehangu mynediad, rhaid i bawb herio’r naratif o amgylch cymunedau sy’n cael eu tangynrychioli.”

UWTSD_Elisha_Hughes_050225_0018

Bu Elisha yn eiriolydd cadarn dros ei chymuned ers pan oedd yn 12 oed. Gan ddechrau fel cynrychiolydd iau yng Nghanolfan Galw Heibio ‘Center’ to ‘Centre’, mae bellach yn cyd-redeg y Ganolfan yng nghanol Abertawe, ardal gyda heriau economaidd hysbys.

Yn angerddol dros ddangos i bawb y posibiliadau i gael mynediad i ddysgu a sicrhau cynnydd, defnyddiodd ei
sgiliau a’i gwybodaeth a ddatblygwyd o’i gwaith parhaus yn y Ganolfan i gefnogi ei swydd o fewn yr adran Ehangu Mynediad/Allgymorth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Gan weithio ar draws ei rhwydwaith, mae’n cysylltu gyda chyrff yn y trydydd sector a darparwyr addysg i hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer unigolion a gaiff eu tangynrychioli.

Dywedodd Donna Williams, Uwch Swyddog Ehangu Mynediad y Brifysgol, “Mae Elisha yn creu llwybrau i oedolion yn Abertawe ffynnu fel dysgwyr, mae wedi meithrin partneriaethau gyda chyrff fel ROOTS, Pobl, Cyngor Abertawe a cholegau lleol. Mae gweithio gydag academyddion, gwasanaethau cymorth myfyrwyr a mudiadau lleol yn sicrhau fod cefnogaeth yn parhau yn hir ar ôl i unigolion gymryd eu camau cyntaf, ac mae’n parhau i eirioli ar ran a chefnogi myfyrwyr yr holl ffordd i’r llinell derfyn o ymrestru yn y brifysgol pa bynnag
rwystrau sy’n eu hwynebu.”

Mae gan Elisha radd mewn celfyddyd gain o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a daw â chreadigrwydd
ac arloesedd i’w sesiynau cymunedol, yn cynnwys gweithdai, cyrsiau blasu a dyddiau profi celf a llesiant. Mae cydweithio gyda Crisis Skylight wedi helpu aelodau oedd yn ddigartref i gael mynediad i gyfleusterau, cyngor
a gweithdai. Ymrestrodd rhai yn y brifysgol neu gymryd rhan mewn cyrsiau min nos. Dywedodd, “Mae cyswllt
â’r gymuned yn rhan ganolog o fy mywyd. Roeddwn yn arfer osgoi unrhyw sgwrs oedd yn golygu y byddai pobl yn gwybod i mi gael fy magu ar stad gyngor, ond mae fy mhrofiad wedi rhoi diben ac angerdd i godi llais a chau’r
bylchau.”

Dywedodd un o’i dysgwyr: “Bu Elisha yn gymaint o olau yn fy mywyd ers i mi gwrdd â hi yn y ganolfan. Roeddwn
yn ynysig iawn gartref gyda fy mhlant bach heb unrhyw deulu na ffrindiau yn agos. Mae Elisha wedi fy annog i
fynychu’r sesiynau crefft a thrin arian. Rhoddodd hyn hyder i fi a fy ngalluogi i wneud ffrindiau yn y gymuned leol a rhoi gofod diogel i mi. Rwy’n awr yn gwirfoddoli ac wedi cynnal sesiynau fy hun. Wnes i erioed feddwl y
byddai hynny’n bosibl.”

Mae ei gallu i deilwra ei dulliau at anghenion y dysgwyr wedi ei gwneud yn ffigur uchel ei pharch yn y gymuned.
Dywedodd, “Rwy’n credu fod y cyswllt mwyaf grymus yn digwydd pan gaiff ei arwain gan y sawl sy’n cymryd rhan am fod hyn yn galluogi unigolion i deimlo y caiff eu llais ei glywed a’i werthfawrogi. Cyflawnais fwyaf pan mae eraill wedi fy nghefnogi a fy annog i geisio’r hyn oedd yn ymddangos yn amhosibl, beth bynnag a ddaw.”

Diolch i'n partneriaid

  • NTFW-Logo-CMYK-text
  • Agreed logo
  • AC-FC-Port-no-strap-300x355
  • Logo_Porffor_RGB-Centre-for-Learning-Welsh-300x121
  • New purple logo - unis wales
  • Welsh Government
id before:16366
id after:16366