https://www.sefydliaddysguagwaith.cymru/wp-content/uploads/2019/06/Tarek-Zou-Alghena-1500x350.png

Ffodd Tarek Zou Anghena o Syria pan ddechreuodd rhyfel cartref yno yn 2011 a daeth i Brydain lai na dwy flynedd yn ôl i adeiladu bywyd newydd. Tair ar hugain oed oedd e pan gafodd ei orfodi i fynd - roedd ei dref enedigol wedi troi’n faes y gad yn y rhyfel cartref “Roeddwn i ofn am fy mywyd,” meddai Tarek, “Mae gen i bedair chwaer ifancach, tri brawd a fy rhieni. Fe adawon ni i gyd gyda’n gilydd, maen nhw nawr yn byw yn Sweden.”

Roedd Tarek yn ddyn busnes, yn cwrdd â ffrindiau mewn caffes a bwytai, cyn i fywyd bob dydd droi’n beryglus. Wrth i’r teulu ddianc fe gawson nhw’u gwahanu – gyda Tarek yn cyrraedd Prydain ar ei ben ei hun yn 2015 ar ôl treulio blynyddoedd yn alltud yn Iorddonen, yr Aifft a Thwrci. “Fe adawais i heb ddim byd,” medd Tarek. Treuliodd fis yn y gwersyll i ffoaduriaid yn Calais cyn gwneud ei ffordd i Brydain. “Roedd pethau’n ddrwg yn y gwersyll. Roedd bywyd yn anodd, roedden ni’n byw mewn pebyll y rhan fwyaf o’r amser. Roedd asiantaethau’n rhoi bwyd i ni, ond roedd yn lle brawychus i fod ynddo.”

Ym Mhrydain cafodd Tarek statws ffoadur ac ymsefydlodd yng Nghaerdydd ar ôl derbyn lloches. Doedd ganddo ddim Saesneg, ac roedd rhestr aros o chwe mis ar gyfer y cwrs ESOL (Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill) agosaf, felly aeth ati i fynychu pob dosbarth Saesneg gwirfoddol y gallai ddod o hyd iddo.

“Pan gyrhaeddais i roedd yn drist bod ar fy mhen fy hun. Ycyfan allwn i ei ddweud yn Saesneg oedd ‘Hi, (I want to go) London, Cardiff, Manchester neu beth bynnag oedd enw’r dinasoedd, ac ychydig iawn o eiriau.”

Am yr ychydig fisoedd cyntaf mynychodd ddosbarthiadau goroesi Saesneg, yn cael eu cyflwyno gan athrawon gwirfoddol a myfyrwyr prifysgol yng Nghyngor Ffoaduriaid Cymru a Chanolfan Oasis. Cyn gynted y daeth lle ar gael, dechreuodd Tarek astudio mewn dosbarthiadau ESOL ffurfiol yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Ddwy flynedd yn ddiweddarach ymgeisiodd am gwrs gradd sylfaen, ac oherwydd ei statws ffoadur roedd yn gallu cymryd rhan yng Nghynllun Noddfa Ffoaduriaid Prifysgol De Cymru. Mae’r cynllun yn darparu paratoad Saesneg dwys am ddim i ffoaduriaid sydd eisiau astudio mewn prifysgol ond ddim yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf.

Dysgwyd Tarek ar dri mis o gwrs Saesneg dwys, y llwyddodd arno y llynedd, a’i galluogodd i gwblhau blwyddyn gyntaf ei gwrs prifysgol yn llwyddiannus. Dywedodd, “Fe fyddwn i’n astudio am tua deuddeg awr y dydd. Ambell waith doeddwn i ddim yn cysgu, rwyf bob amser yn dysgu. Rwy’n gweithio arno bob diwrnod.” Mae newydd gwblhau ei flwyddyn sylfaen ac ym Medi bydd yn dechrau ar flwyddyn gyntaf ei radd tair blynedd mewn Mesur Meintiau a Rheoli Masnachol.

“Roeddwn i’n caru fy hen fywyd,” meddai. “Mae’n anodd esbonio mor galed yw gorfod gadael a dechrau yn rhywle newydd pan ydych chi ddim eisiau mynd. Yn eich cartref mae gyda chi hawliau. Pan fydd eich gwlad yn cael ei rhwygo a mynd yn wan, does gyda chi ddim hawliau, dim llais. Mae dysgu Saesneg wedi newid fy mywyd, rwy’n gallu cael llais. Efallai gwnaf i aros yng Nghymru, efallai deithio’r byd, neu efallai ryw ddydd y bydd hi’n ddiogel i mi ddychwelyd i Syria.”

Mike Chick o Brifysgol De Cymru wnaeth enwebu Tarek. Dywedodd: “Dengys profiad Tarek pa mor bwysig yw ESOL i fywyd ffoaduriaid sy’n ceisio lloches yng Nghymru. Drwy gydweithio mae mudiadau gwirfoddol, dysgu cymunedol a sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch yn chwarae rôl hanfodol mewn integreiddio a chydlyniaeth gymunedol. Llwybr i ymfudwyr oroesi a ffynnu!”