https://www.sefydliaddysguagwaith.cymru/wp-content/uploads/2019/06/Rhiannon-Norfolk-1500x350.png

Roedd cael y cyfle i ddysgu Cymraeg yn factor allweddol ym mhenderfyniad Rhiannon Norfolk i symud yn ôl i Gymru. Roedd wedi etifeddu ei chariad at Gymreictod gan ei rhieni, sy’n hanu’n wreiddiol o dde Cymru ac arferai dreulio’u gwyliau bob haf yng Ngwynedd.

Fe ysbrydolodd y gwyliau teuluol hynny Rhiannon I astudio ym Mhrifysgol Bangor ble’r oedd wedi bwriadu dod yn rhugl yn yr iaith, ond oherwydd ei hamserlen brifysgol brysur bu raid iddi roi’r gorau i’w gwersi Cymraeg. “Fe es ymlaen gyda fy mywyd, fel mae rhywun yn gwneud, ond roedd Cymru bob amser yn teimlo fel adref ac roedd gen i’r hiraeth yma am yr iaith.”

Bu rhaid aros nes ei bod yn byw yn Wiltshire flynyddoedd yn ddiweddarach cyn i gyfarfyddiad hap a damwain arwain Rhiannon yn ôl i Gymru. “Gwelais boster am fand o’r enw Calan yn chwarae yn neuadd y dref yn Chippenham,” meddai. “Es draw yno ar fy mhen fy hun ac roeddwn i ar ben fy nigon. Fe deimlais gysylltiad enfawr gyda seiniau prydferth y Gymraeg a’r gerddoriaeth hudolus, a death hynny â rhywfaint o’r hyn oeddwn i wedi ei ddysgu yn ôl.”

Pan welodd swydd yn cael ei hysbysebu yn ei maes hi, sef gwerthuso yn y gwasanaeth iechyd, gwnaeth gais amdani, cafodd y swydd a symudodd i Gymru. Flwyddyn yn ddiweddarach mae bron wedi cwblhau cwrs Cymraeg lefel-sylfaen llwybr carlam yng Nghymuned Ddysgu Penarth.

“Roeddwn i’n teimlo’n nerfus iawn yn mynd yno ond cefais fy sicrhau y byddwn i’n gallu adeiladu ar y sgiliau Cymraeg oedd gen i’n barod, er eu bod nhw’n rhydlyd,” meddai. “Roeddwn i’n poeni y byddwn i mor bell ar ôl pawb arall gyda fy Nghymraeg elfennol iawn a finnau heb fod yn dysgu ers 13 blynedd, ond roedd yn wych. Roedd pawb mor groesawgar ac mae’n rhyfeddol gymaint mae rhywun yn ei gofio.”

Mae Rhiannon yn mynychu’r dosbarth am ddwyawr bob wythnos ochr yn ochr ag ysgolion dydd Sadwrn. Mae’n ymuno â grŵp darllen yng Nghanolfan Ddysgu Cymunedol i Oedolion Palmerston yn y Barri, ac wedi mynychu cwrs preswyl penwythnos gyda’i mam, Gill, sydd hefyd yn dysgu Cymraeg mewn dosbarthiadau yn agos at ei chartref yn Nhrefynwy.

Ar ôl cael canlyniadau rhagorol yn ei harholiad mynediad, mae Rhiannon nawr yn paratoi i sefyll ei hasesiad sylfaen. “Mae dysgu Cymraeg wedi bod yn bleser pur i mi, o’r diwedd rwyf wir yn teimlo ’mod i gartref,” meddai.

Mae Rhiannon yn dioddef o iselder, gorbryder a Syndrom Poen Rhanbarthol Cymhleth, sy’n golygu’i bod yn gorfod defnyddio ffon neu gadair olwyn ac yn achosi poen a blinder cyson.

Dywedodd Rhiannon: “Mae dod i ddosbarthiadau Cymraeg wedi gwneud wahaniaeth mawr i fy iechyd meddwl. Rwy’n mynd ar fy nghyflymder fy hun ac yn cymryd seibiant yn y dosbarth pan fydd angen. Mae dysgu’n rhoi strwythur i mi a lle i wneud ffrindiau. Mae wedi fy helpu i gadw fy ymennydd yn brysur a rhoi teimlad i mi o bwrpas a chyflawni. Roeddwn i wastad yn teimlo’n edifar i mi roi’r gorau i’r Gymraeg ac eisiau datrys hynny, ac rwy’n teimlo mor fodlon nawr fy mod wedi llwyddo.”

Dywedodd Suzanne Condon a enwebodd Rhiannon, “Mae’n amlwg fod dysgwyr eraill yn y dosbarth wrth eu bodd yn ymarfer gyda Rhiannon, mae hi’n wych am eu hannog i ddweud cymaint â allan nhw. Mae hi’n ddysgwraig gyda chenhadaeth ac yn ysbrydoliaeth i eraill.”