
Am y gwobrau
Mae Gwobrau Ysbrydoli! yn dathlu llwyddiannau unigolion, teuluoedd, prosiectau a sefydliadau sydd wedi dangos angerdd, ymrwymiad a phenderfyniad eithriadol i wella eu hunain, eu cymuned neu weithle trwy ddysgu.
Rydym yn chwilio am unigolion, teuluoedd, prosiectau a sefydliadau y bydd eu llwyddiannau wrth ddysgu yn ysbrydoli eraill i ddychwelyd at ddysgu neu i droi ato - pobl sydd wedi gwella eu bywydau a/neu fywydau pobl eraill a chael profiad cadarnhaol neu un sydd wedi newid eu bywyd trwy ddysgu oedolion.
Trefnir y gwobrau gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Gwobrau Unigolion a Theuluoedd
- Mewn i Waith
- Oedolion Ifanc
- Newid Bywyd a Chynnydd
- Iechyd a Llesiant
- Heneiddio’n Dda
- Cychwyn Arni – Dechreuwyr Cymraeg
- Gorffennol Gwahanol: Rhannu Dyfodol
- Dysgu fel Teulu
- Sgiliau Hanfodol Bywyd NEWYDD Chategorïau)
Gwobrau Prosiectau a Sefydliadau
- Prosiect Effaith Cymunedol
- Sgiliau yn y Gwaith
Dyddiad cau: 19 Chwefror 2021

Emma Williams - Ysbrydoli! Dysgwr Oedolion y Flwyddyn:
“Mae'n debyg na fyddwn i wedi byw'n hirach na 30 mlynedd pe bawn i wedi parhau i fyw fy mywyd fel oeddwn i. Ac eto, dwi'n nabod cymaint o bobl sydd wedi bod trwy lawer gwaeth. Os galla i ysbrydoli o leiaf un person neu ddangos i rywun sy'n ei chael hi'n anodd bod modd trawsnewid eich bywyd drwy addysg, yna mae'r cyfan yn werth yr ymdrech.”
I gael mwy o ysbrydoliaeth edrychwch ar dudalen enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! 2020.