Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn datblygu ac yn cyflwyno cynlluniau peilot i gefnogi gweithwyr sydd angen iddynt ailsgilio fel canlyniad i bandemig Covid-19.
Er mai argyfwng iechyd cyhoeddus yw Covid-19 yn bennaf, mae’r ymateb polisi cyhoeddus hefyd wedi creu heriau economaidd. Mae diweithdra yn parhau i gynyddu ac mae natur sectoraidd y dirwasgiad yn golygu y bydd angen i lawer o weithwyr ailhyfforddi a newid gyrfaoedd.
Ni chaiff yr effeithiau cyflogaeth hyn eu dosbarthu’n gyfartal ac maent yn gwaethygu anghydraddoldeb oedd yn bod eisoes. Mae’r rhai gyda’r angen mwyaf i gynyddu eu sgiliau ac ennill sgiliau newydd yn fwy tebygol o fyw mewn ardaloedd sydd â diweithdra uchel yn barod, gweithio mewn sectorau sydd mewn mwy o risg, sydd â lefelau cymhwyster is a llai o fynediad i hyfforddiant, ac mewn gwaith cyflog isel ar hyn o bryd. Mewn geiriau eraill, hwy yw’’r lleiaf gwydn i golli eu swyddi.
Er mwyn mynd i’r afael â’r her yma, mae angen rhaglenni lleol, ansawdd uchel i gefnogi newidwyr gyrfa fydd yn cysylltu â gweithwyr mewn-risg a datblygu a chyflenwi darpariaeth sgiliau i ddiwallu anghenion swyddi presennol a’r dyfodol.
Bydd y rhaglen hon yn rhoi cefnogaeth uniongyrchol i fwy na 6,000 o fuddiolwyr ar draws y Deyrnas Unedig. Caiff pump cynllun peilot seiliedig ar le (dau yn Lloegr ac un yr un yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon) eu teilwra i adlewyrchu gofynion y marchnadoedd llafur lleol a sgiliau poblogaethau lleol.