Dr Mike Chick
Prifysgol De Cymru

Mike Chick-2

 

Mae Dr Mike Chick yn Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol De Cymru gan arbenigo mewn addysg athrawon iaith.

Dros y 10 mlynedd ddiwethaf mae gwaith Mike wedi canolbwyntio gan fwyaf ar wella mynediad i addysg iaith ar gyfer pobl sy’n ceisio lloches yng Nghymru a gweithio i ganfod ffyrdd i ddileu rhwystrau i fynd i brifysgol.

Mae wedi arwain ar brosiect cydweithio gyda Chyngor Ffoaduriaid Cymru ac OASIS i ddarparu dosbarthiadau Saesneg ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Daw’r prosiect â myfyrwyr prifysgol ynghyd â ffoaduriaid sy’n aml o oedran tebyg i ddarparu addysg iaith a chwalu’r rhwystrau i bobl sy’n cyrraedd Cymru i adeiladu bywyd newydd.

Mae darparu llwybrau gwell ar gyfer rhai sy’n ymgartrefu yng Nghymru i fyw bywydau llawn yn rhan bwysig o rôl Mike. Mae’n ymdrechu i roi cyfle i bobl i symud ymlaen mewn addysg neu ganfod gwaith gwerth chweil fydd yn hwb i’w rhagolygon gyrfa.

Lluniodd Mike raglen ysgoloriaeth Noddfa Prifysgol De Cymru ar gyfer y rhai sy’n ceisio lloches ac arweiniodd at y cais i Brifysgol De Cymru fod yn Brifysgol Noddfa.

Dywedodd Mike, “Mae angen enfawr ar gyfer athrawon Saesneg proffesiynol gyda chymwysterau ar gyfer pobl sy’n ceisio lloches yng Nghymru ac rwy’n rhannu’r wobr hon gyda’r holl athrawon ESOL sy’n mynd uwchben a thu hwnt i addysgu iaith bob dydd i helpu i’w myfyrwyr yn teimlo ymdeimlad o berthyn a chynhwysiant yng Nghymru.”

Gydag ymroddiad i fynd i’r ail filltir i gefnogi eraill, bu Mike yn gwirfoddoli fel athro ESOL am y naw mlynedd ddiwethaf ac ers haf 2022 bu’n trefnu dosbarthiadau ESOL wythnosol ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin sy’n lletya yng nghampws y Brifysgol yn Nhrefforest tra’n arwain ar drefniadau ar gyfer gefeillio Prifysgol De Cymru gyda phrifysgol yn Wcráin.

Meddai, “Gweithio gyda phobl sy’n ceisio lloches sy’n ffoi rhag rhyfel, erledigaeth a braw fu’r gwaith pwysicaf, mwyaf gwerth chweil i mi ei wneud ac mae wedi newid fy mywyd. Rwy’n ffodus i gwrdd, yn ddyddiol, â phobl sy’n wynebu amgylchiadau anhygoel o heriol eto’n gwneud hynny gyda chymaint o ras, hiwmor, gwytnwch a chadernid fel na allwch lai na chael eich ysbrydoli. Rwyf mor falch fod Cymru yn anelu i fod yn Genedl Noddfa ac yn lle gall pawb gael ail gyfle mewn addysg.”

Partneriaeth Gwobrau Tiwtoriaid Ysbrydoli!:

  • NTFW-Logo-CMYK-text
  • ColegauCymru colour
  • Agreed logo
  • New purple logo - unis wales
  • Logo_Porffor_RGB-Centre-for-Learning-Welsh-300x121
  • Welsh Government
id before:10933
id after:10933