Clare Elmi-Glennan
Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd

Clare Elmi-Glennan

Mae Clare Elmi-Glennan yn Diwtor Allgymorth ac Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Dywedodd, “Yn syml, mae tiwtora yn golygu popeth i fi. Ar yr wyneb rwy’n dysgu Seicoleg ac ennyn diddordeb fy nysgwyr – ond mae dysgu ac addysgu yn gymaint mwy.” Mae Clare wedi arwain gwaith blaengar i ehangu mynediad i brifysgol a chael oedolion ar lwybr i addysg uwch drwy’r rhaglen Cymuned i Gampws.

Rwy’n gweld fy rôl fel un sy’n annog dysgwyr i gredu yn eu galluoedd, gweld y byd drwy lygaid gwahanol. Mae addysg yn grymuso, gobeithio, mae’n codi disgwyliadau dysgwyr mewn bywyd ar eu cyfer nhw eu hunain a’u teuluoedd.”

Aeth Clare yn ôl i addysg oedolion i gymryd lefel A a TGAU Mathemateg. Yn 37 oed, gwyddai ei bod eisiau addysgu. Dywedodd, “Roeddwn yn gweithio bob awr o’r dydd a’r nos yn ymdopi ag ymrwymiadau gwaith ac astudio gan fagu pump o blant a chefais radd dosbarth cyntaf. Ar ôl fy ngradd, cefais gyfle i wneud PhD ym Met Caerdydd – gyda chefnogaeth fy nheulu gwych a thîm goruchwylio rhyfeddol, fe wnes orffen fy PhD yn 2013”.

Mae’r pandemig coronafeirws wedi arwain at newidiadau sylfaenol mewn dysgu ac addysgu – roedd Clare yn neilltuol o ymwybodol y gallai dysgwyr yn y gymuned fod yn fwy tebygol o ddioddef yr effaith. Yn benderfynol i beidio siomi’r dysgwyr hynny, fe fanteisiodd yn gyflym ar dechnolegau newydd i gynnal addysgu yn y gymuned. Cymerodd ran yn yr Wythnos Addysg Oedolion ym mis Medi 2020 a chyflwyno darlith wedi’i ffrydio’n fyw i fyfyrwyr yn ystyried dychwelyd i addysg. Parhaodd Clare i gyflwyno ei modwl seicoleg ar-lein i oedolion yn dysgu yn y gymuned. Yn ychwanegol, cyfrannodd at fodiwl Cyflwyniad i Seicoleg ar gyfer cynllun prosiect Parhad Dysgu Llywodraeth Cymru i helpu myfyrwyr Blwyddyn 13 oedd yn methu symud ymlaen gyda’u dysgu oherwydd Covid-19.

“Mae fy mhrofiad wedi fy ngwneud yn angerddol am ymestyn allan i fwy o bobl yn ein cymunedau, mae cymaint o botensial segur allan yno. Am lawer o resymau mae pobl yn colli cyfleoedd yn yr ysgol neu dim yn mwynhau’r cyfnod hwnnw, ond mae pawb yn haeddu ail gyfle, trydydd gyfle .. cynifer o gyfleoedd ag sydd angen. Mae fy neges i oedolion sy’n ddysgwyr yn syml – beth bynnag ddigwyddodd yn y gorffennol, gallwch fod yn gyfrifol am lunio eich dyfodol eich hun!”

Diolch i'n partneriaid

  • NTFW-Logo-CMYK-text
  • Agreed logo
  • AC-FC-Port-no-strap-300x355
  • Logo_Porffor_RGB-Centre-for-Learning-Welsh-300x121
  • Unis Wales
  • Welsh Government
id before:8154
id after:8154