11 Mehefin 2025 | 11:40am - 1:30pm | Eglwys Norwyaidd, Bae Caerdydd
Mewn partneriaeth gyda’r Brifysgol Agored yn Nghymru, mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn falch i gyflwyno Darlith Goffa Flynyddol Raymond Williams eleni a draddodir gan Dr Sabrina Cohen-Hatton, KFSM, Prif Swyddog Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin Sussex.
Yn un o’r menywod yn y swyddi uchaf yn y gwasanaeth tân ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, mae gan Sabrina PhD mewn Seicoleg a nifer o ddoethuriaethau er anrhydedd, yn cynnwys gan y Brifysgol Agored. Mae ei stori bersonol – tyfu lan yng Nghasnewydd, dod yn ddigartref yn 15 oed, yn ymladdwr tân yn 18 ac yn cyfuno ei gwasanaeth rheng-flaen gydag angerdd am ddysgu gydol oes – yn arddangosiad clir o rym addysg oedolion yn wyneb heriau niferus bywyd.
Mae darlith Raymond Williams yn gyfle pwysig I fyfyrio ar waith a bywyd Raymond Williams, yn arbennig yng nghyd-destun addysg oedolion a’i botensial trawsnewidiol. Mae’r ddarlith yn denu cynulleidfa helaeth a gwybodus o weithwyr proffesiynol o bob rhan o gymdeithas ddinesig yng Nghymru a thu hwnt.
Roedd Raymond Williams yn un o feddylwyr cymdeithasol mwyaf Cymru ac Ewrop, ond mae ei waith yn cyflwyno cynifer o baradocsau ag yw o ddatrysiadau posibl.