Caiff Daniel ei ddisgrifio fel tiwtor ysbrydoledig sydd bob amser yn edrych am ffyrdd newydd ac arloesol i ymgysylltu a chefnogi carfan amrywiol o ddysgwyr. Fel athro ESOL, dywedodd
Daeth Taesar Matouk i fyw yng Nghymru o Syria. Dywedodd, “Rwy’n dysgu Saesneg ac am fywyd ym Mhrydain, ac mae Daniel wedi bod yn help mawr iawn i mi. Fe wnaeth fy helpu i gynnal arddangosiad coginio ar gyfer aelodau’r gymuned er mwyn iddynt ddysgu am fwyd Syria. Rwy’n awr wedi pasio fy mhrawf theori gyrru ac wedi cael swydd ran-amser.”
Bu Daniel yn gweithio yng Ngholeg Menai am 13 mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwn mae wedi ennill mwy o gymwysterau proffesiynol, gan ddatblygu ei rôl yn y coleg o fewn tîm hyfforddi athrawon TESOL yn ogystal ag arwain ar weithdai entrepreneuriaeth a datblygu cynigion arloesedd. Mae’n cynnig sesiynau galw heibio wythnosol lle gall staff yn y coleg gael cefnogaeth a hyfforddiant ac mae’n cyflwyno sesiwn hanner awr o ymwybyddiaeth ofalgar yn ei amser ei hun sydd ar agor i’r holl staff.
Mae ymchwilio Rhith-Wirionedd mewn Addysg Bellach a Dysgu Iaith yn faes datblygu y mae Daniel wedi ei arloesi. Dechreuodd Daniel ddefnyddio ei offer ei hun i dreialu Rhith-Wirionedd yn yr ystafell ddosbarth, mae wedi creu adnoddau a chynnwys newydd ar gyfer y llwyfan, yn bennaf ar gyfer dysgwyr ESOL. Gall dysgwyr ymweld â’r meddyg neu’r deintydd yn rhithiol, gan eu paratoi ar gyfer sefyllfaoedd bywyd go iawn.
Dywedodd, “Rwy’n credu fod gan y dechnoleg y potensial
i ennyn diddordeb pobl mewn addysg mewn ffyrdd hollol newydd. Gobeithiaf y bydd y gwaith hwn yn effeithio ar ddysgwyr a fyddai fel arall yn ei chael yn anodd cael mynediad i addysg a hyfforddiant. Mae addysg yn i bawb – ond daeth llawer i gredu nad yw’n weithredol ar eu cyfer nhw. Gadewch i ni eu helpu i ail-gysylltu gyda dysgu gydol oes a newid eu meddyliau.”