Cynhadledd Hydref Taith ar gyfer Addysg Oedolion yng Nymru

Dydd Mercher, 29 November 2022 | 10am – 12:30pm | Zoom webinar 

 

Sesiwn siaradwr llawn

Susana Galvan, Cyfarwyddwr Gweithredol, Taith

Jenny Macaffer, Prif Swyddog Gweithredol, Adult Learning Australia

 

Prosiectau Llwybr 1 Taith 

Helen Prosser, Cyfarwyddwr Addysgu a Dysgu, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr, Mudiad Meithrin

 

Panel:  Cysylltiadau Rhyngwladol

Andrea Bernert-Bürkle, Pennaeth prosiectau UE – Volkshochschulverband, Baden-Württemberg, yr Almaen

Willie McAuliffe, Cyd-gadeirydd Cork Learning City a Chadeirydd Gŵyl Dysgu Gydol Oes Cork.

Yvonne Jänchen, Cydlynydd Rhaglen VET, Movetia, y Swistir

Noelia Cantero, Cyfarwyddwr, EARLAAL

 Jaume Puigpinos, Swyddog Cysylltiadau Rhyngwladol, La Taula, Catalonia

 

Dal i fyny ar y digwyddiad isod:

Gweithdai 1 Cysylltiadau Rhyngwladol

Volkshochschulverband Baden-Württemberg e.V. (vhs BW) yw cymdeithas ranbarthol  Volkshochschulen (canolfannau addysg oedolion ac addysg bellach cyhoeddus yn nhalaith Baden-Württemberg yn yr Almaen. Y Volkshochschulen yw darparwyr dim er elw mwyaf addysg oedolion ac addysg bellach yn yr Almaen). Mae’r cynigion addysgol yn amrywio o hyfforddiant galwedigaethol i ddosbarthiadau iaith yn cynnwys yr Almaeneg fel iaith dramor, dosbarthiadau ar gyfer oedolion i gael graddau ysgol, cyrsiau mewn celfyddydau gweledol a chreadigrwydd, addysg iechyd a chwaraeon, addysg wleidyddol ac yn y blaen. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn cynnwys pobl sydd mewn risg o allgau cymdeithasol fel ymfudwyr, ffoaduriaid, pobl ddi-waith, oedolion gyda sgiliau isel a phobl ifanc a adawodd addysg gyffredinol. Mae’r Volkshochschulen hefyd yn cynnig hyfforddiant mewn cydweithrediad â chwmnïau a cyflogwyr cyhoeddus. Yn ogystal â chyrsiau hyfforddiant, mae’r Volkshochschulen yn gynyddol yn darparu gwasanaethau i unigolion tebyg i ganllawiau addysgol a gyrfa ar gyfer oedolion. Mae mwy na 2 filiwn o gyfranogwyr yn ymweld â chyrsiau hyfforddiant y Volkshochschulen yn Baden-Württemberg bob blwyddyn.    Andrea Bernert-Bürkle:  Volkshochschulverband, Baden-Württemberg e.V.

 

Mae Corc yn ddinas dysg UNESCO. Cynhaliwyd 3edd cynhadledd ryngwladol UNESCO ar Ddinasoedd Dysg yn Corc yn 2017 yn dilyn Beijing a Mecsico. Mae ganddynt bwyllgor llywio yn cynnwys Llywyddion y ddwy brifysgol yn y ddinas (Coleg Prifysgol Corc a Phrifysgol Dechnegol Munster), Bwrdd Addysg a Hyfforddiant Corc, Cyngor Dinas Corc, Gweithrediaeth Gwasanaeth Iechyd a Chymdeithas Genedlaethol Penaethiaid a Dirprwy Benaethiaid.  Yr Ŵyl Dysgu Gydol Oes oedd dechrau’r ddinas dysg yn 2004 ac mae wedi parhau i dyfu gyda miloedd o ddinasyddion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau drwy gydol cyfres wythnos o hyd o ddigwyddiadau bob blwyddyn, i gyd yn rhad ac am ddim. Eu harwyddair yw ‘Ymchwilio, Cymryd Rhan a Dathlu’.  Dros y blynyddoedd, mae 5 ardal yn y ddinas wedi datblygu Cymdogaethau Dysg lle mae pob ardal yn ymchwilio’r hyn mae dysgu yn ei olygu iddyn nhw ac yn datblygu yn unol â hynny. Mae pob un yn unigryw i’r ardal. Maent hefyd wedi datblygu cysylltiad gyda busnesau a diwydiannau lleol, Cork Access Network (CAN) lle mae cyfarfodydd brecwast rheolaidd wedi hwyluso cyfarfodydd rhwng amrywiol fusnesau lle trafodir rhannu dulliau dysgu a ffurfio rhwydweithiau. Datblygwyd rhwydwaith Dinasoedd Dysg ym mhob rhan o Iwerddon gyda Limerick, Dulyn, Belfast, a Derry/Strabane lle mae cyfarfodydd rheolaidd ac ymweliadau i ddinasoedd ei gilydd wedi meithrin cysylltiadau a rhannu arfer da.  Yn fwy diweddar, maent wedi cymryd rhan ym mhrosiect Shared Island ac yn gweithio ar ddatblygu prosiectau a chymunedau yn Derry a Belfast.    Willie McAuliffe, Cyd-gadeirydd Cork Learning City a Chadeirydd Gŵyl Dysgu Gydol Oes Cork.

 

Gweithdai 2 Cysylltiadau Rhyngwladol

Movetia yw asiantaeth genedlaethol hyrwyddo cyfleoedd cyfnewid a symudedd yn y system addysg yn y Swistir. Mae Movetia yn annog ac yn cefnogi gweithgareddau cyfnewid, symudedd a chydweithredu yng ngwahanol sectorau addysg, yn ogystal â hyrwyddo gweithgareddau allgyrsiol ym mhob rhan o’r byd. Mae Movetia yn cefnogi prosiectau symudedd o fewn y sector Addysg Oedolion, yn ogystal â phartneriaethau cydweithredu. Mae prosiectau symudedd yn galluogi athrawon, yn ogystal â rheolwyr a chwnselwyr i gymryd rhan mewn hyfforddiant wedi ei strwythuro, cysgodi swyddi a gweithgareddau addysgu ym mhob gwlad. Gellir hefyd wahodd staff addysg oedolion o dramor i gymryd rhan mewn symudedd dysgu yn y Swistir. Mae partneriaethau cydweithredu hefyd yn galluogi sefydliadau i ymchwilio pwnc perthnasol yn fanwl dros gyfnod hirach, ac os yn berthnasol i ddatblygu dulliau ac offerynnau datrysiad ar y cyd. Y nod yw hyrwyddo ansawdd ac arloesedd yn Ewrop.     Yvonne Jänchen, Cydlynydd Prosiect VET.    Cyflwyniad

 

Mae EARLALL (Cymdeithas Ewropeaidd Awdurdodau Rhanbarthol a Lleol dros ddysgu gydol oes) yn rhwydwaith o ranbarthau seiliedig ym Mrwsel sy’n anelu i gyfrannu at wneud polisi yn yr Undeb Ewropeaidd a chydweithredu mewn prosiectau ym maes dysgu gydol oes. Yn seiliedig ar gryfderau unigryw pob rhanbarth ac awdurdod lleol, mae EARLALL yn hwyluso cydweithio a phartneriaethau rhanbarthol, yn ogystal â chyfnewid gwybodaeth yn agored a chyflym. Sefydlwyd y rhwydwaith yn 2001 dan gynllun llywodraethau rhanbarthol yn fodlon meithrin cydweithrediad ym maes dysgu gydol oes. Yn wir, mae EARLALL yn credu fod gan ranbarthau ac awdurdodau lleol rôl freintiedig wrth ddylunio a gweithredu strategaethau yn gysylltiedig ag ef, gan eu bod mewn cysylltiad uniongyrchol gyda sefydliadau addysgol, yr amgylchedd busnes a dinasyddion.      Noelia Cantero, Cyfarwyddwr – Cyflwyniad

id before:10311
id after:10311