Clare Palmer

Enillydd Gwobr Sgiliau Hanfodol Bywyd
Enwebwyd gan: Canolfan Ddysgu’r Fro

Gadawodd Clare Palmer yr ysgol yn 14 oed heb unrhyw gymwysterau. Roedd Clare yn angerddol am helpu eraill ac yn breuddwydio am yrfa lle gallai roi rhywbeth yn ôl. Ond erbyn iddi fod yn 18 oed, roedd yn fam gyda mab bach i ofalu amdano.

Bu’n gweithio mewn salon trin gwallt am y 14 mlynedd nesaf i gefnogi ei theulu ifanc. Pan ddychwelodd i Gymru gyda’i mab yn 2013, penderfynodd ddefnyddio ei hangerdd i helpu eraill i ddod yn gymhorthydd gofal. Ar ôl chwe mlynedd yn gweithio yn y sector gofal, roedd Clare yn breuddwydio am ddod yn weithiwr cymdeithasol. Gan wybod y byddai angen cymwysterau mewn mathemateg a Saesneg i gael ei derbyn ar gwrs prifysgol mewn gwaith cymdeithasol, ymunodd â Chanolfan Ddysgu’r Fro ac aeth ymlaen i gwblhau ei Lefel 1 Cymhwyso Rhif a Lefel 2 mewn Cyfathrebu.

Darganfu Clare y byddai’n dal i fod angen cymhwyster ychwanegol mewn mathemateg i gyrraedd ei dewis cyntaf o brifysgol. Felly, flwyddyn ar ôl cael ei chymhwyster cyntaf, dychwelodd i Ganolfan Dysgu y Fro i ddechrau astudio ei Lefel 2 Cymhwyso Rhif. Daeth hyn wrth iddi weithio yn y sector gofal a gafodd ei daro mor galed yn ystod y pandemig.

“Roeddwn wedi gadael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau yn 14 oed a dilyn fy llwybr fy hun. Cefais fy mab, Taylor, pan oeddwn yn 18 a gorfod i mi dyfu lan yn sydyn iawn. Roeddwn wrth fy modd yn helpu pobl. Mae rhoi gwên ar wyneb rhywun arall a gwneud gwahaniaeth yn eu bywyd yn deimlad gwych.”

Yn 2019, ar ôl gorffen Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, roedd gan Claire lawer mwy o hunangred am ba mor bell y gallai fynd â’i gyrfa. Penderfynodd y byddai angen eisiau mynd â’i hangerdd am ofal gam ymhellach a gwneud cais i brifysgol i ddod yn weithiwr cymdeithasol.

Erbyn i’r pandemg daro ym mis Mawrth 2020, roedd wedi ennill Lefel 2 mewn Cyfathrebu a Lefel 1 Cymhwyso Rhif. Rhwng 14 a 41 oed doeddwn i ddim wedi gwneud unrhyw fathemateg na Saesneg. Roeddwn yn betrus  i ddechrau ac, a deud y gwir, roeddwn yn ofnadwy. Ond fe wnes daflu fy hun iddi a roeddwn yn gwybod ar ôl dim ond ychydig o wythnosau mod i wedi gwneud y penderfyniad cywir.

“Fe wnes mor dda yn yr ychydig fisoedd cyntaf fel yr es ymlaen i wneud y Lefel 2 mewn Cyfathrebu. Dim ond deuddydd yr wythnos oedd y cwrs, oedd yn golygu y gallwn barhau i weithio fel cymhorthydd gofal tra fy mod yn dysgu.

“Ar un amser roeddwn yn gweithio hyd at 60 awr yr wythnos, weithiau saith diwrnod ar ôl ein gilydd. Roeddwn wedi blino’n lân. Ar ben hynny, roeddwn yn ceisio cydbwyso fy nysgu fy hun gyda gofalu am fy mab a chadw ein tŷ mewn trefn. Dwi dal ddim i wybod sut yn iawn, ond fe ddaethom drwyddi.”

Wrth fwrw golwg yn ôl ar ei phrofiad mewn addysg oedolion, dywedodd Claire: “Bu’n anodd weithiau ond rwyf yn anhygoel o falch fy mod wedi ei wneud ef. Bu’r profiad yn wych. Byddwn yn wirioneddol yn ei argymell.  Rwy’n awr yn nes nag erioed at gyflawni fy mreuddwyd o ddod yn weithiwr cymdeithasol.”

Yn 2019, ar ôl gorffen Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, roedd gan Claire lawer mwy o hunangred am ba mor bell y gallai fynd â’i gyrfa. Penderfynodd y byddai angen eisiau mynd â’i hangerdd am ofal gam ymhellach a gwneud cais i brifysgol i ddod yn weithiwr cymdeithasol

Gyda chefnogaeth

  • Welsh Government small
  • OU_Wales_Logo_Dark_Blue
id before:8644
id after:8644