“Mae fy nosbarthiadau yn chwarae rhan fawr wrth helpu i chwalu rhwystrau a llwybrau cefnogi. I mi, mae’n hynod werth chweil helpu dysgwyr i symud ymlaen yn eu Saesneg a’u gweld yn rhyngweithio’n fwy effeithiol â’u plant ac yn cael hwyl gyda’i gilydd. Mae’n fraint cael chwarae rhan yn eu taith.”
Mae Clare Jones wedi bod yn addysgu ESOL ers dros 10 mlynedd, mae’n gweithio gyda cheiswyr lloches a ffoaduriaid trwy Ddysgu Teuluol mewn partneriaeth â Chanolfan Gymunedol Affrica (ACC) ac yn fwy diweddar, Cymorth Ceiswyr Lloches Abertawe (SASS). Mae Clare yn dysgu saith dosbarth yr wythnos, gyda thri ohonynt yn ddosbarthiadau dysgu teuluol, ond mae gan bron bob un gyfleusterau meithrinfa. Mae hyn yn galluogi mamau â babanod a phlant cyn oed ysgol i ymuno â dosbarthiadau na fyddent fel arall yn gallu cael mynediad atynt.
Mae Clare yn cefnogi’r rhai sy’n aml y anoddaf i’w cyrraedd trwy hwb cymunedol ACC, mae’r dysgwyr hynny wedyn yn ymuno â llwybrau newydd i ddysgu trwy ddosbarthiadau Dysgu Teuluol. Mae hi hefyd yn darparu dosbarth dysgu teuluol arall mewn partneriaeth ag Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff.
Drwy’r bartneriaeth gyda’r ACC, mae cyfleusterau meithrinfa ar gael i’r teuluoedd; gall y dysgwyr ganolbwyntio ar eu dosbarthiadau tra bod eu plant yn ddiogel ac yn cael eu difyrru. Nid yn unig mae hyn yn dileu rhwystrau gofal plant ac yn ehangu mynediad at ddysgu, ond mae hefyd yn caniatáu i’r plant gymdeithasu â’u cyfoedion a’r mamau i gysylltu â’i gilydd yn y dosbarth.
Mae Clare wedi datblygu’r cwricwlwm Dysgu Teuluol ac wedi creu adnoddau a deunyddiau newydd trwy ysgrifennu unedau newydd. Ar hyn o bryd mae hi hefyd yn treialu cwrs Agored newydd y gwnaeth hi ei gynllunio ar reoli ymddygiad plant. Nod y cwrs newydd yw galluogi dysgwyr i gael lle diogel i rannu eu profiadau a’u pryderon rhianta eu hunain, gan ennill mwy o ddealltwriaeth o ymddygiad eu plant a sut y gallant ymateb yn briodol ac yn gadarnhaol. Mae’n datblygu cyfleoedd i famau greu gemau, llyfrau a gweithgareddau chwarae blêr i’w plant, sy’n cefnogi addysg eu plant wrth adeiladu perthnasau teuluol a hwyliog.