Claire Gurton

Enillydd Gwobr Dysgu fel Teulu
Enwebwyd gan:  Coleg Caerdydd a’r Fro

Dim ond 22 oed oedd Claire Gurton pan gollodd y golwg yn un o’i llygaid. Ni wyddai hynny ar y pryd ond roedd yn dioddef o neuromyelitis optica (NMO), clefyd awtoimiwnedd sy’n effeithio ar y llygaid a llinyn y cefn.

Parhaodd Claire i weithio am 20 mlynedd arall, tan bedair blynnedd yn ôl pan waethygodd ei hiechyd ac y gwnaeth y penderfyniad anodd i adael ei swydd brysur yn yr YMCA. Collodd olwg ei llygad arall a datblygu problemau gyda symud, byddardod, tinnitus, a wnaeth i gyd achosi iddi ddod yn bryderus a cholli hyder.

Pan ddechreuodd ysgol Mackenzie, ei mab saith oed, ddechrau hysbysebu dosbarthiadau Teuluoedd yn Dysgu gyda’i Gilydd drwy Goleg Caerdydd a’r Fro, roedd Claire yn betrus. Gan weld y dosbarthiadau fel ffordd gadarnhaol o helpu Mackenzie, sydd â ADHD a phroblemau niwroddatblygiadol arall, i wella ei allu canolbwyntio a chadw lan gyda’i gyfoedion, daliodd Claire ati. Nawr, mae Claire a Mackenzie wedi gorffen 6 dosbarth ac yn bwriadu parhau i ddysgu gyda’i gilydd. Mae athrawon Mackenzie wedi sylwi ar welliant yn ei allu i ganolbwyntio a’i waith ysgol ac mae gan Claire hyder newydd yn ei gallu.

Dywedodd: “Dim ond yn ddiweddar y cafodd Mackenzie ddiagnosis ADHD felly mae’n cael llawer o help nawr, ond cyn iddo gael meddyginiaeth, roeddem yn ei chael yn anodd iawn ei gael i ganolbwyntio. Allwch chi ddim dysgu o ddarn o bapur yn unig, mae angen ennyn ei ddiddordeb.

“Mae ar ôl ei gyfoedion yn yr ysgol. Roedd mynd i ddosbarthiadau gyda’n gilydd yn ymddagos yn ffordd berffaith i’w helpu i ddala lan ac i mi weld beth mae’n ei ddysgu fel y gallwn helpu mwy gyda’i waith cartref. Roeddwn yn teimlo’n nerfus a phryderus iawn. Doeddwn i ddim wedi gwneud unrhyw ddysgu ers amser maith, doeddwn i ddim yn siŵr y medrwn ei wneud. A wyddwn i ddim pa effaith fyddai bod yn ddall a byddar yn gael ar fy ngallu i gymryd rhan. Gofynnais i fy ngŵr ddod gyda fi i’r dosbarth cyntaf ond roeddent mor gefnogol fel yr aeth Mackenzie a finnau a fy nghi tywys Peggy ar ben ein hunain ar ôl hynny.

“Fe wnaethon ni ddechrau gyda chwrs Llythrennedd a Rhifau. Fe wnaethom wyth yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Roeddwn ar y rhestr warchod felly roedd yn wych cael rywbeth i lenwi’r amser. Roedd yn brofiad a ddaeth â ni yn nes yn ein gilydd ac fe wnaethom ddysgu cynghorion a thriciau i helpu gydag ysgol gartref. Yn y gwaith, rydych yn cael cydnabyddiaeth am weithio’n galed. Bob dydd rydych yn teimlo eich bod yn cyflawni rhywbeth. Pan roddais y gorau i weithio, fe gollais hynny. Mae mynd yn ôl i ddysgu wedi fy helpu mewn cynifer o ffyrdd.

“Roeddwn yn meddwl bob amser na fyddwn yn medru gwneud yr un gweithgareddau â rhieni eraill. Nawr rwy’n gwybod y gallaf, rwy’n llawer mwy hyderus ac annibynnol. Rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd a gwella fy sgiliau sylfaenol. Rwy’n falch o’r hyn mae Mackenzie a finnau wedi medru ei gyflawni.”

Roeddwn yn meddwl bob amser na fyddwn yn medru gwneud yr un gweithgareddau â rhieni eraill. Nawr rwy’n gwybod y gallaf, rwy’n llawer mwy hyderus ac annibynnol

Gyda chefnogaeth

  • Welsh Government small
  • OU_Wales_Logo_Dark_Blue
id before:8715
id after:8715