Chwarae Teg – Rhaglen Datblygu Gyrfa Cenedl Hyblyg 2

Enillydd Gwobr Sgiliau Gwaith
Noddir gan: Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Ers iddi gael ei lansio yn 2015, mae Rhaglen Datblygu Gyrfa Cenedl Hyblyg 2 Chwarae Teg wedi helpu’r sawl sy’n cymryd rhan i sicrhau cynnydd cyflog o fwy na £3 miliwn rhyngddynt.

Mae’r rhaglen addysg oedolion 12-wythnos yn darparu ar gyfer menywod o gefndiroedd a diwydiannau amrywiol, gan eu cefnogi i weithio tuag at eu nodau gyrfa tra’n ennill cymwysterau cydnabyddedig drwy’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.Cafodd y cwrs ei gwblhau gan fwy na 2,700 o fenywod hyd yma.

Dywedodd Rina Evans, uwch bartner cyflenwi Chwarae Teg:

“Daw menywod atom o wahanol sectorau, ar wahanol lefelau a chamau yn eu gyrfaoedd, ond unwaith y maent yn dod ynghyd yn y sesiynau grŵp, maen nhw’n sylweddoli bod llawer o’r heriau sy’n wynebu menywod yn y gweithle yr un fath."

Mae Dyfarniad Lefel 2 Ymgyrraedd at Arwain, cwrs mwyaf poblogaidd Chwarae Teg, yn anelu i gau’r bwlch hwnnw a chynyddu cynrychiolaeth menywod mewn swyddi arweinyddiaeth.

Ychwanegodd Rina: “Mae menywod yn gwneud arweinwyr gwych, ond mae llawer o fenywod sy’n dod atom yn dioddef o syndrom ffugio – maent yn teimlo nad yw’r cymwysterau ganddynt i fod mewn swyddi arwain. Weithiau gall dychwelyd i addysg fel oedolyn a chael cymhwyster arwain i gydnabod hynny help i roi hyder iddynt wthio ymlaen a chyflawni eu nodau.

Gorffennodd Gemma Williams, cynghorydd ecoleg a bioamrywiaeth Dŵr Cymru, y rhaglen yn 2018 a chafodd ddyrchafiad ddwywaith ers hynny. Dywedodd: “Cenedl Hyblyg 2 oedd y cyfle cyntaf a gefais i weithio ar fy natblygiad personol. Mae wedi agor cynifer o ddrysau i fi. Cyn i mi orffen y cwrs hwn, byddai swyddi’n dod lan a byddwn yn tanbrisio fy hun a pheidio gwneud cais amdanynt. Byddwn yn darbwyllo fy hunan nad oedd y sgiliau na’r profiad cywir gen i, ond fe roddodd hyn yr hyder a’r gallu i fi i gredu ynof fy hun.

 

Gwobr Sgiliau yn y Gwaith wedi'i noddi gan

  • OU_Wales_Logo_Dark_Blue-1-150x150
  • Welsh Government
id before:6901
id after:6901