Bu’n rhaid i Chawan Ali ffoi o Irac yn 2015 gyda’i rhieni a’i thri brawd iau er mwyn dod o hyd i le diogel ar ôl blynyddoedd o ymladd. Roedd bygythiad ISIS yn golygu bod ei theulu’n teimlo’n ofnus am eu dyfodol.
Dim ond yn ysbeidiol roedd hi wedi cael addysg yn ei mamwlad ac ychydig iawn o Saesneg oedd ganddi pan ddaeth yma, a bu’n rhaid i’r ferch, oedd yn 16 oed ar y pryd, frwydro i gael statws ffoadur wrth geisio setlo i’w bywyd newydd yn Wrecsam.
Meddai: “Roeddwn i mor ofnus; dwi’n cofio cerdded drwy neuaddau’r ysgol a doedd gen i ddim syniad beth oedd yn digwydd. Roeddwn i’n dweud ie neu na fel ateb i bopeth ond doeddwn i ddim wir yn deall dim byd. Mewn neuadd yn llawn cannoedd o fyfyrwyr, doeddwn i erioed wedi teimlo mor unig.”
Cofrestrodd Chawan ar gwrs Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) Mynediad 2, ac mae hi’n dweud bod hynny wedi agor llawer o ddrysau.
Heb gymwysterau TGAU, aeth Chawan ymlaen i gwblhau cwrs Kickstart yng Ngholeg Cambria ac ar hyn o bryd mae hi’n astudio Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Lefel 2 ESOL. Mae hi’n gobeithio sefyll ei harholiadau a pharhau ar ei chwrs Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol – ei breuddwyd yw bod yn fydwraig.
Chawan yw’r unig berson yn ei thŷ sy’n siarad Saesneg, ac mae hi’n gofalu am ei mam sy’n dioddef o sawl cyflwr meddygol hirdymor, yn helpu ei theulu gydag apwyntiadau, ffurflenni banc a chyfieithu dogfennau o ysgol ei brawd.
Yn ogystal â gweithio mewn cartref gofal a mynd i’r coleg, mae hi hefyd yn helpu ceiswyr lloches eraill yng Nghymru ac yn brwydro dros newid polisi fel bod pobl fel hi’n cael gwell profiad, nid yn unig yn Wrecsam ond yng Nghymru gyfan.
Mae Chawan yn aelod o gymuned Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Wrecsam ac mae hi’n cynnal sesiynau galw heibio yn Eglwys Fethodistaidd Wrecsam a hefyd yn ymgyrchu yn yr ardal leol.
Meddai: “Mae ennill cymwysterau wedi newid fy mywyd, mae gen i ddyfodol nawr – rhywbeth dwi wedi breuddwydio amdano ers blynyddoedd.
Meddai Chawan: “Dwi bellach yn ddiogel ac yn cael cefnogaeth, ac yn cael yr un cyfleoedd â’r rhan fwyaf o bobl ifanc a dwi’n ddiolchgar iawn. Dwi’n parhau i weithio’n galed er mwyn bod yn esiampl o fenyw gref i weddill y teulu.
“Pan fydd pobl yn clywed fy stori, dwi eisiau dweud wrthyn nhw am beidio byth â rhoi’r gorau iddi. Dwi eisiau dweud wrthyn nhw am beidio â gadael i brofiadau gwael bywyd eu hatal rhag symud ymlaen. Trwy weithio’n galed, gallwch frwydro dros eich bywyd chi a bywyd pobl eraill.”
Meddai Lianne Walley, tiwtor ESOL yng Ngholeg Cambria; “Mae Chawan yn ysbrydoliaeth i ni gyd. Drwy ei gwaith gyda’r rhwydwaith VOICES, grŵp annibynnol o geiswyr lloches a ffoaduriaid sy’n hunaneirioli er mwyn codi ymwybyddiaeth ac annog newid cadarnhaol, mae Chawan wedi siarad yn y Senedd gan gynrychioli’r rhai sydd mewn sefyllfaoedd tebyg.
“Mae’n gweithio tuag at wneud ei bywyd yn werth ei fyw er mwyn i fywyd ei theulu fod yn fwy diogel ac yn fwy cyfforddus ac er mwyn i Gymru fod yn lle mwy cyfeillgar a mwy croesawgar i fyw a ffynnu ynddo.
“Bydd Chawan yn parhau â’i hastudiaethau a gyda’i rôl yn y mudiad Sanctuary – yn sicr, rydyn ni’n debygol o glywed ei llais a dod ar draws ei gwaith yn y dyfodol.”