Rhannodd y gweminar canfyddiadau Sefydliad Dysgu a Gwaith harolwg diweddaraf ar Gyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yng Nghymru. Mae’r arolwg hwn yn rhoi cipolwg unigryw ar faint o oedolion sy’n cymryd rhan mewn dysgu bob blwyddyn, y manteision y mae pobl yn eu gweld o ddysgu a’r rhesymau pam fod rhai oedolion yn dweud nad ydynt wedi cymryd rhan mewn dysgu.
Siaradwr
Emily Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith – trafodd goblygiadau’r arolwg ar gyfer polisi ac ymarfer yng Nghymru, a’r cyfleoedd a’r heriau ar gyfer dysgu gydol oes yng nghyd-destun y pandemig a thu hwnt.
Panelwyr
David Hagendyk, Prif Weithredwr, ColegauCymru | Chloe Rees, Swyddog Trefnu a Datblygu, TUC Cymru | Kieron Rees, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Prifysgolion Cymru- rhannodd eu safbwyntiau a’u profiadau o addysg oedolion a newid gyrfa.