Anne Reardon-James
Panda Education and Training Education Cyf

BV3A5873

 

Ymunodd Anne Reardon-James â Panda Education and Training Cyf yn 2021 fel Cynghorydd Dysgu, wedi ei sbarduno gan angerdd i wneud addysg ar gael ac yn gyfleus i bawb a gwella ansawdd dysgu gweithle a phrofiadau oedolion sy’n ddysgwyr.

Ei rôl yw cymell, ysbrydoli ac addysgu darpar diwtoriaid, hyfforddwyr ac aseswyr i fod yn addysgwyr hyderus, cymwys a chydnerth. Mae’n addysgu Prentisiaethau Lefel 3 Dysgu a Datblygu, hyfforddiant aseswyr a hyfforddiant pwrpasol ar gyfer swyddogion iechyd bellach a gweithle.

Daw llawer o ddysgwyr Anne o amrywiaeth o gefndiroedd, o bobl sydd heb gwblhau fawr ddim fel addysg ffurfiol i rai sydd â graddau prifysgol.

Dywedodd Anne, “Ein gwerthoedd yn Panda yw angerdd, parch, ansawdd ac arloesedd, ac rwy’n byw ac anadlu hynny oherwydd mae tiwtora a mentora fy nysgwyr yn golygu popeth i fi. Mae eu gweld yn gwella eu gwybodaeth, sgiliau a hyder a symud ymlaen i gymwysterau uwch a’r cam nesaf yn eu gyrfaoedd addysg broffesiynol yn werth chweil iawn.”

Caiff ei hymrwymiad i addysgu gydol oes ei ddangos yn ei datblygiad proffesiynol ei hun, mae’n awyddus i gadw ei sgiliau yn gyfredol fel aelod cyswllt o nifer o rwydweithiau proffesiynol yn cynnwys CIPD ac Advance HE.

“Mae’r amrywiaeth pobl a addysgaf yn sail i fy nysgu a fy natblygiad fy hun. Er enghraifft, cefais fy ngherdyn CSCS yn ddiweddar fel y gallaf gwrdd â dysgwyr ar safleoedd adeiladu i roi cefnogaeth wyneb i wyneb. Rwyf hefyd yn gweithio tuag at ddoethuriaeth broffesiynol mewn addysg, gan ymchwilio dysgu gweithle drwy siarad gyda dysgwyr a chyflogwyr mewn sefydliadau ar draws De Cymru.”

Yn ei hamser hamdden, mae Anne yn rhannu ei chariad at ddysgu a rhoi yn ôl i’r gymuned – mae’n olygydd gwirfoddol cyfnodolyn RaPAL ar gyfer Ymchwil ac Arferion mewn Llythrennedd Oedolion ac yn rhoi gwersi iaith Saesneg wythnosol ar-lein i ffoadur o Wcráin ar sail wirfoddol, gan hefyd letya dau westai o Wcráin yn ei chartref ei hun. Mae hefyd yn gweithio fel gwirfoddolydd llyfrgell a siopa ar gyfer pobl sy’n gaeth i’w cartref.

Mae ysbrydoli dysgwyr i symud ymlaen i ddysgu pellach yn rhan bwysig o rôl fentora Anne, fel eu bod yn parhau i sicrhau cynnydd a llwyddo  gydol oes. Mae llawer o’i dysgwyr wedi parhau mewn addysg neu wedi dod o hyd i swyddi a chyfleoedd pellach yn y sector addysg, gan fynd ymlaen i ysbrydoli eraill.

 

Diolch i'n partneriaid

  • NTFW-Logo-CMYK-text
  • ColegauCymru colour
  • Agreed logo
  • New purple logo - unis wales
  • Logo_Porffor_RGB-Centre-for-Learning-Welsh-300x121
  • Welsh Government
id before:10909
id after:10909