Ein pobl

Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru

  • Inspire Tutor Awards-76

    Joshua Miles

    Director for Wales

    Joshua Miles

    Director for Wales

    Joshua Miles is the Director for Wales at the Learning and Work Institute, leading on our activity in Wales and working closely with Welsh Government and other Welsh partners. Prior to joining L&W, Joshua Miles was the Director for Confederation of Passenger Transport (CPT) Cymru. Joshua was previously the Head of Policy for the Federation of Small Businesses Wales. He has been a member of several Welsh Government advisory bodies such as Transport for Wales’ Advisory Panel, the Valleys Taskforce and the Higher Education Funding Council for Wales’ Research and Innovation Committee. He has also been a board member for Traveline Cymru. Joshua holds Master’s Degree in Public Policy from Cardiff University and studied at the Institut d’Etudes Politiques in Bordeaux as part of his undergraduate study. He speaks both Welsh and French. Joshua has previously worked for the Construction Industry Training Board, Welsh political consultancy Positif Politics and for the former MP for Ogmore Huw Irranca-Davies.
  • Kay

    Kay Smith

    Pennaeth Ymgyrchoedd, Polisi a Datblygu

    Kay Smith

    Pennaeth Ymgyrchoedd, Polisi a Datblygu

    Mae Kay yn bennaeth ymgyrchoedd, polisi a datblygu i L&W yng Nghymru. Mae gan Kay arbenigedd yn gweithio gyda darlledwyr ar ymgyrchoedd gweithredu cymdeithasol a gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid ar draws Cymru. Mae’n arwain gweithgaredd hyrwyddo ar gyfer gŵyl Wythnos Addysg Oedolion a Gwobrau Ysbrydoli! i godi ymwybyddiaeth ac ehangu mynediad i ddysgu gydol oes. Ynghyd â hyn, mae gwaith datblygu a pholisi arall yn cynnwys Addysg i Deuluoedd, ESOL, Sgiliau Hanfodol a Dysgu Cymunedol.
  • Calvin

    Calvin Lees

    Swyddog Prosiect

    Calvin Lees

    Swyddog Prosiect

    Ymunodd Calvin ag L&W o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf lle’r oedd yn Brif Swyddog Addysg Oedolion. Mae gan Calvin 15 mlynedd o brofiad rheoli prosiectau gyda phrosiectau Ewropeaidd ESF ac ERDF, ac roedd yn aelod o fwrdd y Bartneriaeth Ddysgu, bwrdd rhwydwaith Dysgwyr Hŷn a chafodd brofiad o ddatblygu prosiectau ar draws y sectorau addysg 14-19 ac ôl-16, addysg a sgiliau. Ar hyn o bryd, Calvin sy’n gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno prosiectau ar draws Cymru yn cynnwys gwaith cyfredol ar gynllun Peilot Cyfrifon Dysgu Personol, Cronfa Datblygu Sgiliau A.B a gwerthuso ‘Gweithio dros Gymru’ i Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn arwain prosiect Symudedd KA1 Erasmus+ Cymru i rannu arfer gorau ar ymgyrchoedd Addysg Oedolion a Llysgenhadon Dysgwyr ar draws Ewrop.
  • qw

    Wendy Ellaway-Lock

    Rheolwr Swyddfa a Chydlynydd Digwyddiadau

    Wendy Ellaway-Lock

    Rheolwr Swyddfa a Chydlynydd Digwyddiadau

    Wendy yn Rheolwr Swyddfa a Chydlynydd Digwyddiadau.  Mae Wendy yn cynorthwyo cynllunio logisteg prosiectau a rheoli cyllid, yn ogystal â bod yn gyfrifol am systemau swyddfa, strategaethau adeiladau, adeiladau a chynnal a chadw a rheoliadau iechyd a diogelwch. Mae Wendy’n gyfrifol am gydlynu a dosbarthu papurau ar gyfer grŵp Strategaeth Cymru a rhwydweithiau ehangach ac mae’n chwarae rôl allweddol yn cydlynu a gwerthuso pob digwyddiad allanol yn cynnwys cynadleddau a rhaglenni hyfforddiant.
  • WIN_20230718_15_54_00_Pro

    Nisha Patel

    Cynorthwyydd Cymorth Marchnata a Chyfathrebu

    Nisha Patel

    Cynorthwyydd Cymorth Marchnata a Chyfathrebu

    Nisha yw cynorthwyydd ymgyrchoedd, marchnata a chyfathrebu Dysgu a Gwaith Cymru. Mae’n ymwneud â chydlynu, cynllunio creadigol a chyflwyno gwobrau blynyddol Ysbrydoil! a’r ymgyrch Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth o fanteision dysgu gydol oes. Mae Nisha hefyd yn gyfrifol am ac yn cynnal yr holl lwyfannau cyfathrebu digidol tebyg i’r wefan, sianeli cyfryngau cymdeithasol a marchnata drwy e-bost, a datblygu ffyrdd i arddangos ein gwaith mewn modd creadigol er mwyn ymestyn cyrraedd ac effaith ein gwaith. Mae Nisha hefyd yn cefnogi cynllunio a chyflenwi digwyddiadau Dysgu a Gwaith Cymru.

Uwch dîm rheoli

  • Stephen Evans

    Stephen Evans

    Prif Weithredwr

    Stephen Evans

    Prif Weithredwr

    Mae Stephen wedi bod yn brif weithredwr ers 2016, ar ôl treulio dwy flynedd cyn hynny fel dirprwy brif weithredwr. Ymunodd o Working Links, lle’r oedd yn arwain ar bolisi, strategaeth a datblygu busnes. Cyn hyn, gweithiodd yn y London Development Agency fel cyfarwyddwr cyflogaeth a sgiliau, yn comisiynu rhaglenni ac yn arwain gwaith y London Skills and Employment Boaard; roedd yn brif economydd yn y Social Market Foundation; a threuliodd chwe blynedd fel uwch gynghorydd polisi yn Nhrysorlys EM yn gweithio ar bolisi ar gyfer sgiliau, cynhyrchiant a thlodi plant.
  • Naomi-Portrait-Uncropped-450x300

    Naomi Phillips

    Dirprwy brif weithredwr a chyfarwyddwr polisi ac ymchwil

    Naomi Phillips

    Dirprwy brif weithredwr a chyfarwyddwr polisi ac ymchwil

    Naomi yw Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Polisi ac Ymchwil a Sefydliad Dysgu a Gwaith. Ymunodd â’r tîm ym mis Ionawr 2022 o’r Groes Goch Brydeinig, lle bu’n Gyfarwyddwr Polisi ac Eiriolaeth.
  • Samantha

    Sam Windett

    Dirprwy Gyfarwyddwr

    Sam Windett

    Dirprwy Gyfarwyddwr

    Fel Dirprwy Gyfarwyddwr, mae Sam yn canolbwyntio ar sicrhau effaith ar bolisi ac ymarfer drwy ymchwil Dysgu a Gwaith ar ddysgu, sgiliau a chyflogaeth. Yn flaenorol, roedd Sam yn Gyfarwyddwr Polisi Impetus, gan arbenigo mewn addysg a chymorth cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig. Ar ddechrau pandemig COVID-19 yn 2020, cyd-sefydlodd Sam y Grŵp Cyflogaeth Ieuenctid gan ddod ag arweinwyr allweddol ac arbenigwyr o’r sector cyflogaeth ieuenctid ynghyd i helpu gyrru ymateb y Deyrnas Unedig. Cyn hynny roedd Sam yn Bennaeth Polisi ERSA, corff cynrychioli’r sector cymorth cyflogaeth ac yn arwain y timau materion cyhoeddus ar gyfer darparwyr cyflogaeth a sgiliau yn y sectorau preifat ac elusennol. Mae Sam yn Gymrawd Ymarfer GoLab 20921 ac yn Berson Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl.
  • naomi

    Naomi Clayton

    Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu

    Naomi Clayton

    Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu

    Mae Naomi Clayton yn ddirprwy gyfarwyddwr ymchwil a datblygu. Mae gan Naomi dros 14 blynedd o brofiad mewn ymchwil a pholisi gydag arbenigeddau mewn cyflogaeth, sgiliau a materion anfantais y farchnad lafur. Cyn ymuno â L&W, Naomi oedd dirprwy gyfarwyddwr Canolfan What Works ar gyfer Twf Economaidd Lleol, a’r rheolwr polisi ac ymchwil yn y Ganolfan ar gyfer Dinasoedd lle’r oedd yn gyfrifol am ddatblygu a goruchwylio rhaglenni i gynorthwyo polisi ac ymarfer effeithiol. Mae wedi gweithio gyda phartneriaid ar draws y DU i’w cynorthwyo i ddefnyddio tystiolaeth ac arddangos effaith trwy weithredu strategaethau sgiliau, cymorth cyflogaeth ieuenctid a chynlluniau cynnydd mewn gwaith, a datblygu strategaethau diwydiannol lleol.
  • Paul cleminson

    Paul Cleminson

    Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau

    Paul Cleminson

    Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau

    Paul Cleminson yw Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau. Cymhwysodd Paul fel Cyfrifydd Rheolaeth Siartredig yn 1996 ac mae wedi treulio'r rhan fwyaf o'i yrfa mewn nifer o sectorau masnachol cyn symud i Gymdeithas Tai fawr yn 2014 ac ymunodd â L&W yn ystod 2022. Mae gyrfa Paul wedi canolbwyntio'n bennaf ar rolau Cyllid Gweithredol ac mae hefyd wedi cymryd mewn cyfnodau o reoli staff anariannol a rheng flaen
  • Helen-Gray-450x300

    Helen Gray

    Prif Economegydd

    Helen Gray

    Prif Economegydd

    L&W fel Prif Economegydd ym mis Gorffennaf 2022. Dros yr 20 mlynedd diwethaf mae wedi gweithio ar ystod amrywiol o brosiectau ym maes cyflogaeth a sgiliau, gan gymhwyso technegau gwerthuso arbrofol a lled-arbrofol i amcangyfrif effaith achosol newidiadau polisi. Mae Helen wedi gweithio gydag amrywiaeth eang o setiau data gweinyddol ac arolygon ac mae ganddi arbenigedd penodol mewn defnyddio data gweinyddol cysylltiedig y llywodraeth, sy’n rhychwantu addysg, sgiliau, derbyn budd-daliadau, cyflogaeth a throseddu. Cyn ymuno â L&W bu Helen yn Brif Economegydd Ymchwil yn y Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth am bum mlynedd, ar ôl gweithio cyn hynny yn y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, y Sefydliad Astudiaethau Polisi, y Ganolfan Perfformiad Economaidd a Phrifysgol Surrey.
  • emily j

    Emily Jones

    Dirprwy Gyfarwyddwr

    Emily Jones

    Dirprwy Gyfarwyddwr

    Mae Emily Jones yn bennaeth ymchwil yn L&W, yn gyfrifol am arwain prosiectau ymchwil a datblygu er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bolisi ac ymarfer. Mae gwaith Emily’n canolbwyntio ar ddysgu gydol oes a sgiliau, ac mae’n arwain ein prentisiaethau a’n rhaglen addysg dechnegol. Mae Emily hefyd yn arwain ein hymchwil ar y Cynllun Ailhyfforddi Cenedlaethol.
id before:4596
id after:4596