Amdanom Ni
Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn sefydliad polisi, ymchwil a datblygu annibynnol sy’n ymroddedig i ddysgu gydol oes, cyflogaeth lawn a chynhwysiant.
Ymchwiliwn yr hyn sy’n gweithio, datblygu ffyrdd newydd o feddwl a gweithredu dulliau newydd. Gan weithio gyda phartneriaid, rydym yn trawsnewid profiadau pobl o ddysgu a chyflogaeth. Mae’r hyn a wnawn o fudd i unigolion, teuluoedd, cymunedau a’r economi yn ehangach.
Mae dysgu a gwaith yn cyfri oherwydd …
- Mae angen i fwy o bobl ganfod gwaith, aros mewn gwaith ac adeiladu eu gyrfaoedd
- Mae angen gostwng bylchau mewn dysgu a chyflogaeth ar gyfer cymunedau amddifadus
- Mae angen cyfleoedd dysgu gydol oes ar gyfer teuluoedd cryfach, pobl iachach, cymunedau mwy cynhwysol
- Mae angen economi mwy cytbwys a mwy cynhyrchiol
Ond mae heriau sylweddol …
- Mae adnoddau’n dyn – mae angen gwneud i bob punt gyfri
- Mae cynhyrchiant yn rhy isel – nid yw cyflogwyr, unigolion a’r llywodraeth yn buddsoddi digon mewn hyfforddiant
- Mae gormod o bobl yn dal i fod heb waith – mae dros 3 miliwn o bobl ar fudd-daliadau
- Mae bylchau sgiliau a chyflogaeth yn rhy fawr – mae angen eu cau fel y gall cymunedau a phobl gael budd
- Mae buddsoddiad dysgu yn canolbwyntio gormod ar bobl iau ar draul oedolion ar draws eu gyrfaoedd ac ar ôl iddynt ymddeol