Alison Stewart - Coleg Gwent

“Dysgu Saesneg yw’r llawenydd yn fy mywyd. Fy unig nod yw rhoi, rhannu’r hyn mae bywyd wedi ei brosesu ynof fi i fywydau pobl eraill, fel y byddant hwythau hefyd wedi ennill digon o iaith, ysbrydoliaeth, anogaeth ac ymdeimlad o berthyn i roi’r meddylfryd iddynt allu neidio dros bob rhwystr gyda ‘Rydw i, ac fe allaf’. Yn ystod fy ngyrfa 17 mlynedd fel tiwtor ESOL, rwyf wedi cael y fraint o weld cannoedd o bobl yn cyflawni’r cymwysterau maen nhw eu hangen i symud ymlaen. Mae eu gwylio nhw’n cael eu grymuso i symud ymlaen yn rhoi llawer o foddhad.

Alison Stewart-15

Cafodd taith Alison Stewart i ddod yn athrawes ESOL ei sbarduno gan sylweddoliad pwerus: yn yr amgylchedd cywir, gydag anogaeth, cefnogaeth wirioneddol, a modelau rôl cadarnhaol, gall unrhyw un gyrraedd eu potensial llawn. Fe wnaeth hyn daro tant yn ddwfn gyda hi, gan ei bod yn teimlo cysylltiad cryf â cheiswyr lloches a ffoaduriaid. Wedi tyfu i fyny yn y system ofal, roedd yn rhannu eu profiad o adael cartref a theulu i ddechrau o’r newydd mewn lle unig. Fel llawer o’i dysgwyr, roedd yn dibynnu ar garedigrwydd a chefnogaeth gweithwyr proffesiynol ymroddedig i oresgyn heriau.

Mae’r profiad uniongyrchol hwn gyda stigma, unigedd, a’r angen i oresgyn rhwystrau wedi siapio llwybr gyrfa Alison. Fe wnaeth gweld effaith ymyrraeth gadarnhaol yn ei bywyd ei hun danio angerdd i helpu eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.

Mae Alison yn credu mai addysg yw’r allwedd i ddatgloi cyfle. Mae hi’n defnyddio pynciau’r byd go iawn yn ei dosbarthiadau, gan helpu myfyrwyr i ddysgu Saesneg a datrys problemau bob dydd. Y tu hwnt i sgiliau iaith, mae Alison yn gweithio’n ddiflino i gysylltu ei myfyrwyr â phobl ddylanwadol yn y gymuned, gan agor drysau i bosibiliadau newydd. Mae hi’n meithrin ynddyn nhw’r gred y gallant gyflawni eu nodau trwy waith caled ac ymroddiad. Mae ei dull yn pwysleisio ail-lunio profiadau’r gorffennol fel ffynhonnell cryfder, nid cyfyngiadau.  Dyma, yn ei thyb hi, yw’r wers fwyaf gwerthfawr y gall hi ei throsglwyddo i’w myfyrwyr.

Diolch i'n partneriaid

  • NTFW-Logo-CMYK-text
  • Agreed logo
  • AC-FC-Port-no-strap-300x355
  • Logo_Porffor_RGB-Centre-for-Learning-Welsh-300x121
  • New purple logo - unis wales
  • Welsh Government
id before:14172
id after:14172