Alice Jones
Carchar Parc

Alice Jones

Dair blynedd yn ôl, daeth Alice Jones yr athrawes Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) gyntaf yng Ngharchar ei Mawrhydi/Sefydliad Troseddwyr Ifanc Parc.

“Mae fy ngwaith yn ymwneud â chreu cyfleoedd i garcharorion gyda ADY i ddysgu mewn ffordd fwy arbenigol ac unigol. Fel rhywun sydd â dyslecsia, rwy’n gwybod faint o her y gall addysg fod – fy ngwaith i yw canfod ffordd i bob person gyflawni.”

Caiff preswylwyr eu cefnogi gydag addysg mewn unrhyw beth o ddarllen ac ysgrifennu i strategaethau ar gyfer byw bob dydd. Dywedodd Alice,

Mae gan lawer o’r dynion rwy’n gweithio gyda nhw amrywiaeth o anghenion cymhleth yn ogystal ag anawsterau gyda darllen, ysgrifennu a mathemateg, llawer o bethau sy’n hanfodol i ffynnu mewn bywyd bob dydd mewn carchar.”

Mae Alice yn fedrus wrth ganfod beth yw prif ddiddordebau pob preswylydd ac mae’n defnyddio hyn i feithrin sgiliau mewn ffordd a gafodd ei haddasu i’r ffordd maent yn dysgu orau. Mae pob person yn berchen ac yn ymfalchïo yn eu dysgu – i lawer, dyma’r tro cyntaf iddynt gael hyn yn eu bywydau.

Mae’r swydd wedi tyfu i arwain a chynghori staff yn y carchar ar sut i ddatblygu arfer gorau pan fyddant yn gweithio gyda phreswylwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a sicrhau fod y cyngor yn cyflawni fframwaith a pholisïau presennol Cymru.

Yn ogystal â dysgu sgiliau newydd, mae’r rhaglen hefyd yn canolbwyntio ar y ffordd gadarnhaol y gall myfyrwyr wella a rheoli eu bywydau a ffynnu pan ddychwelant i’w cymunedau. Gall llwyddiant amrywio o helpu dyn i wella ei rifedd a’i lythrennedd fel y gall archebu ei fwyd, i nodau tymor hirach tebyg i weithio gyda myfyriwr gydag anableddau dysgu i sicrhau gwaith ar radio’r carchar neu ysgrifennu llyfr.

“Rwy’n credu mewn eirioli dros fy fyfyrwyr, gan fod ganddynt fel pob un ohonom ffordd wahanol o ddysgu ac nid rhwystrau i ddysgu. Mae ganddynt oll rym gwych a fy ngwaith i yw canfod hynny, beth bynnag yw eu gallu.”

  • NTFW-Logo-CMYK-text
  • Agreed logo
  • AC-FC-Port-no-strap-300x355
  • Logo_Porffor_RGB-Centre-for-Learning-Welsh-300x121
  • Unis Wales
  • Welsh Government
id before:8136
id after:8136