James Atkinson

Enillydd Gwobr Iechyd a Llesiant
Enwebwyd gan: Sgiliau Gwaith i Oedolion 2: Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Mae gan James Atkinson anhwylder ar y sbectrwm awtistig. Pan oedd yn tyfu lan, roedd yn dioddef o ddiffyg hyder ac yn cael sefyllfaoedd cymdeithasol yn anodd, a gadawodd yr ysgol heb TGAU mewn mathemateg a Saesneg.

Aeth ar gwrs coleg mewn peirianneg ar ôl gadael yr ysgol, ond flwyddyn a hanner ar ôl dechrau gwyddai nad oedd yn iawn iddo ef. Yn benderfynol i ddod o hyd i waith, aeth James drwy People Plus, cwmni cefnogaeth cyflogaeth a gwasanaethau hyfforddiant a chafodd leoliad gwaith gyda Elite Paper Solutions, ,gan gael swydd fel cynorthwyydd gyrwyr dosbarthu.

Newidiodd y swydd ei fywyd. Yn llawn hyder, cafodd ei ysbrydoli i fynd yn ôl i’r coleg i astudio Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu a gweithio at radd mewn gwyddor gyfrifiadurol yn y brifysgol. Bu James yn gweithio’n galed at gymhwyster lefel 2 mewn sgiliau cyfathrebu hanfodol a lefel 2 cymhwyso sgiliau rhif wrth ochr â’i gwrs Lefel 2 mewn Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Dywedodd James: “Rwyf bob amser wedi bod wrth fy modd yn dysgu, mae’n rhoi cymaint o foddhad i mi. Mae gwybod fy mod yn dysgu pethau newydd yn teimlo’n rymus iawn ac yn rhoi llawer o falchder i fi. Oherwydd fy awtistiaeth, rwy’n cael trafferth gyda sefyllfaoedd cymdeithasol. Fe wnaeth hyn yr ysgol a’r coleg yn heriol iawn. Nid dyna oedd y gofod dysgu gorau i fi.

“Gadewais fy nghwrs coleg cyntaf ynghynt nag a fwriadwn, ond roeddwn eisiau dod o hyd i swydd. Mae siarad gyda chwsmeriaid bob dydd wedi dod â fi allan o fy nghragen ac wedi fy helpu gyda fy mhryder cymdeithasol. Mae wedi rhoi llwyth o hunan-gred i mi. Fe wnaeth gweithio gydag Elite hyd yn oed roi hyder i mi gael swydd yn gweithio mewn bar ym Merthyr. Rwyf wrth fy modd gyda’r gwaith a chael cyfle i siarad gyda phobl.”

Ym mis Medi 2020, cofrestrodd James ar gwrs TGCh yng Ngholeg Merthyr. “Pan ddechreuais yn y coleg, sylwais fy mod yn eithaf cysurus yn fy lefel 1 ac yn medru ateb llwyth o gwestiynau. Roedd yn hwb enfawr i fy hunan-gred pan wnaethant fy symud i lefel 2 ddim ond bedair wythnos ar ôl dechrau yno. Gall ymdopi gyda fy nghwrs TGCh  gyda hyfforddiant sgiliau hanfodol a dwy swydd ran-amser iawn fod yn flinedig iawn ond fyddwn i ddim ei heisiau unrhyw ffordd arall. Rwy’n gweithio tuag at rywbeth fydd yn gwneud fy mywyd gymaint gwell ac yn fy ngwneud gymaint yn fwy hapus. Mae fy hyfforddiant sgiliau wedi bod mor ddefnyddiol. Mae fy ysgrifennu yn llawer gwell iawn, sy’n fy help mawr gyda fy arholiadau a gwaith ar gyfer fy nghwrs TGCh.”

Wrth siarad am bwysigrwydd addysg oedolion, dywedodd James: “Mae’n fy ngwneud yn fodlon iawn gwybod faint o drysau fedrai agor i fi. Gyda phob darn o wybodaeth rwy’n ei chael, rwy’n helpu fy ngyrfa. Mae gan i rai pethau sy’n achosi gofid i mi am fy nghyfnod yn yr ysgol, felly rwy’n ei chael gymaint â hynny yn fwy arbennig i gael cyfle hwn i roi cynnig arall.”

 

Mae’n fy ngwneud yn fodlon iawn gwybod faint o drysau fedrai agor i fi. Gyda phob darn o wybodaeth rwy’n ei chael, rwy’n helpu fy ngyrfa. Mae gan i rai pethau sy’n achosi gofid i mi am fy nghyfnod yn yr ysgol, felly rwy’n ei chael gymaint â hynny yn fwy arbennig i gael cyfle hwn i roi cynnig arall.

Gwobr Iechyd a Lles wedi'i noddi a'i gefnogi gan:

  • Refined Logo (PNG) ALW
  • Welsh Government small
  • OU_Wales_Logo_Dark_Blue
id before:8637
id after:8637