Prosiect UNISON Cymru Wales WULF

Enillydd Gwobr Sgiliau yn y Gwaith
Enwebwyd gan:  UNISON Cymru Wales

Nod Prosiect UNISON Wolf yw cynyddu sgiliau, hyder, llesiant a chyflogadwyedd y gweithlu gwasanaeth cyhoeddus ar draws Cymru.

Yn ystod y pandemig, addasodd Prosiect UNISON WULF ei wasanaethau i ddelio gyda’r pwysau cynyddol oedd ar bobl yn gweithio yn y sector cyhoeddus. Bu staff y prosiect yn gweithio’n galed i sicrhau y gellid cyflwyno’r gwasanaeth yn gyfangwbl rithiol, ac i gylch llawer ehangach o bobl.

Gallodd gefnogi dros 2,500 o staff  rheng-flaen y GIG, gofal cymdeithasol, staff cefnogaeth mewn ysgolion, Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a gweithwyr allweddol eraill o bob rhan o Gymru drwy ystod eang o gyfleoedd dysgu tebyg i weminarau, e-ddysgu a grantiau.

Dywedodd Richard Speight, Trefnydd Dysgu a Datblygu Ardal gyda UNISON Cymru: “Rydyn ni’n ceisio canolbwyntio ar weithwyr cyflog is y gwasanaethau cyhoeddus megis cymhorthwyr addysgu a gweithwyr gofal, sy’n aml ddim yn cael yr hyfforddiant a chyfleoedd addysgol sydd ar gael i gydweithwyr ar gyflogau uwch. Cyn y pandemig, roedd ein prif ffocws yn fwy am ddarparu sgiliau hanfodol fel llythrennedd i’n dysgwyr. Nawr mae ein cylch gorchwyl wedi ehangu yn llawer ehangach a mwy penodol i gyflogaeth.”

Pan darodd COVID, y dasg gyntaf oedd sicrhau fod gan bob gweithiwr cymdeithasol yng Nghymru fynediad am ddim i hyfforddiant penodol ar reoli heintiad coronafeirws, gan ymestyn cwrs e-ddysgu ar-lein am ddim i dros 800 o bobl.

Roedd y cynnig hwn, a ddarparwyd drwy eLearningForYou yn galluogi gweithwyr gofal i ymuno â’r sector a chadw eu datblygiad proffesiynol yn gyfredol yn ystod yr argyfwng.

Dywedodd Richard: “I lawer o’n tiwtoriaid, roedd dysgu sut i gyflwyno gweminarau diddorol yn anodd iawn. Diolch byth, roedd gennym yr wybodaeth fewnol i roi’r arbenigedd i’n tiwtoriaid i bontio o’r ystafell dosbarth i weminar yn un llyfn.”

Ers mis Mawrth 2020, mae’r Prosiect wedi cyflwyno dros 150 gweminar dan arweiniad arbenigwyr. Maent wedi cynnwys cyrsiau ‘Cydnerthedd’ a ‘Trawma Eilaidd a Mechnïol’ ar gyfer cronfa adleoli cyflym COVID-19 Cyngor Sir Ddinbych, cyrsiau ‘Darpar Ymgeiswyr’ ar gyfer gweithwyr gofal yng Ngheredigion a chyrsiau Iaith Arwyddion Prydeinig ar gyfer staff GIG.

“Ni fyddai dim o’r llwyddiant hwn wedi bod yn bosibl heb gydweithio rhwng ein tîm, undebau llafur, cyflogwyr a’r unigolion eu hunain.

“Mae gennym berthynas gref gydag undebau llafur a chyflogwyr sector cyhoeddus sy’n annog gweithwyr i fynychu’r sesiynau hyn. Mae’n dangos i weithwyr y caiff eu datblygiad ei werthfawrogi felly maent wedi cael yr hyder a’r rhyddid i wella eu set sgiliau.”

Rydyn ni’n ceisio canolbwyntio ar weithwyr cyflog is y gwasanaethau cyhoeddus megis cymhorthwyr addysgu a gweithwyr gofal, sy’n aml ddim yn cael yr hyfforddiant a chyfleoedd addysgol sydd ar gael i gydweithwyr ar gyflogau uwch

Gyda chefnogaeth

  • Welsh Government small
  • OU_Wales_Logo_Dark_Blue
id before:8702
id after:8702