Pobl ifanc yn ardaloedd tlotaf Cymru yn dal i gael eu gadael ar ôl yn dilyn dau ddegawd o ddatganoli

Mae’r ‘Mynegai Cyfle Ieuenctid’ yn dangos gwahaniaethau llwm mewn deiliannau addysg a chyflogaeth ar gyfer pobl ifanc ar draws Cymru.

Mae’r addysg a’r cyfleoedd cyflogaeth y gall pobl ifanc yng Nghymru eu disgwyl yn dal i gael eu penderfynu gan ble maent yn byw – yn hytrach na gan eu gallu – yn ôl data newydd a gyhoeddwyd gan Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru heddiw. Mae’r Mynegai Cyfle Ieuenctid, y cyntaf, o’i fath yn y wlad, yn dangos mai pobl ifanc sy’n tyfu fyny yn yr ardaloedd mwyaf amddifadus fel Torfaen, Merthyr Tudful a Blaenau Gwent, sydd â’r lleiaf o fynediad i gyfleoedd, gan eu gadael yn wynebu anfantais dwbl.

Mae’r Mynegai yn rhoi safle pob awdurdod lleol yng Nghymru yn ôl lefelau cyrhaeddiad addysgol a deilliannau cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc. Mae’n cynnwys nifer o fesurau yn amrywio o berfformiad TGAU a chyfranogiad mewn Addysg Uwch a Phrentisiaethau, i’r gyfran o bobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae’r mynegai yn rhoi safle awdurdodau lleol ar bob mesur ac yn dod â nhw ynghyd mewn un mesur addysg a chyfleoedd cyflogaeth.

Dengys dadansoddiad fod crynhoad sylweddol o amddifadedd yng Nghymoedd y De Ddwyrain, gyda Torfaen, Merthyr Tudful, Caerffili a Blaenau Gwent y pedwar awdurdod gyda’r sgôr isaf.

I roi sylw i wahanol ymyriadau llwyddiannus, mae Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru yn dosbarthu fideo am lwyddiant yr elusen Groundwork, sy’n darparu addysg a chyfleoedd hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc mewn ardaloedd amddifadus. Gallwch weld y fideo yma.

Dywedodd David Hagendyck, cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith:

“Ddau ddegawd yn dilyn datganoli, dengys Mynegai Cyfle Ieuenctid y caiff y cyfleoedd ar gyfer ein pobl ifanc mewn addysg a chyflogaeth eu penderfynu gan ble maent yn tyfu lan, ac nid gan eu gallu a pha mor galed y maen nhw’n gweithio. Rydym yn gweld cysgod hir dirywiad diwydiannol, gyda phobl ifanc sy’n tyfu lan yn y cymunedau a gafodd ‘gadael ar ôl’ yma yn dal i ddioddef o gyfleoedd gwaelach.

“Sicrhawyd cynnydd mewn amrywiaeth o feysydd polisi, yn cynnwys gostyngiad yn nifer y bobl ifanc heb fod mewn gwaith, addysg neu hyfforddiant ac ehangiad sylweddol mewn cyfleoedd prentisiaeth, ond yr hyn sydd ei angen yn awr yw ffocws clir ar y cymunedau hynny lle mae gan bobl ifanc leiaf o gyfleoedd.

“Mae’n rhaid i ddileu’r gwahaniaethau llwm yma sy’n creithio ein gwlad ac yn dal ein pobl ifanc yn ôl fod yn ffocws canolog i Lywodraeth Cymru dros y ddau ddegawd nesaf. Heddiw galwn ar bob plaid wleidyddol i ymateb i’r her ac, wrth i ni baratoi ar gyfer Etholiadau 2021, i osod eu cynlluniau i ddod â’r anghydraddoldeb yma i ben, yn cynnwys llwybrau galwedigaethol ar gyfer pobl ifanc, ffocws ar ymyriad cynharach, a chanolbwyntio adnoddau ar yr ardaloedd lle mae’r angen mwyaf.”