‘Cosb cod post’ – Yr hyn a ddywed y Mynegai Cyfle Ieuenctid wrthym am anghydraddoldeb o ran cyfle

Nôl yn 1997 roeddwn yn ymgyrchu am bleidlais Ie yn y refferendwm i sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan gnocio drysau ac annog pobl i bleidleisio mewn cymunedau ar draws maes glo de Cymru. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, roeddwn yn ddigon ffodus i ddechrau fy ngyrfa fel ymchwilydd gwleidyddol yn yr union sefydliad hwnnw.

Cafodd fy nghefnogaeth ar gyfer datganoli ei hysgogi gan gred y byddai’n gwella cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc a helpu mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb oedd yn waddol ein dirywiad diwydiannol ac economaidd.

A symud ddau ddegawd ymlaen, a yw pethau wedi gwella mewn gwirionedd? Yn ddi-os, bu cynnydd mewn ystod o fesurau, yn cynnwys gwelliant mewn canlyniadau ysgol a mwy o gyfleoedd prentisiaeth.

Fodd bynnag, pan ddaw i her fawr mynd i’r afael ag anghydraddoldeb hanesyddol a dwfn iawn, mae dadansoddiad ein Mynegai Cyfle Ieuenctid Cymru cyntaf erioed yn dangos fod cymaint mwy yn dal i’w wneud.

Am y tro cyntaf, daw ein Mynegai Cyfle Ieuenctid â’r deilliannau allweddol ynghyd yn nhermau addysg a chyflogaeth ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru. Mae’n ein galluogi i dynnu sylw at y cyfleoedd sydd ar gael i’n pobl ifanc ar lefel leol. Ac mae’n dangos anghydraddoldeb llwm. Er enghraifft, mae gan breswylwyr yn Sir Fynwy ddwywaith y gyfradd ymrestru ar gyrsiau Addysg Uwch ag sydd yn ardal gyfagos Blaenau Gwent, tra bod y gyfradd cyfranogiad mewn prentisiaethau ar gyfer rhai 16-24 oed deirgwaith yn uwch yng Nghastell-nedd Port Talbot ag yw yng Nghaerdydd neu Geredigion.

Dengys y mynegai mai yng Nghymoedd y De Ddwyrain mae’r pedwar awdurdod lleol sydd yn y safle isaf (Torfaen, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Chaerffili), gan ddangos fod cyfleoedd heddiw – mewn addysg a hefyd mewn cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc – yn parhau wedi’u dosbarthu’n anwastad ac yn sefydlu’r anghydraddoldeb presennol. Dengys fod cysylltiad annerbyniol o uchel rhwng lle’r ydych yn byw â chyfleoedd ar gyfer pobl ifanc, gyda’r rhai sy’n tyfu lan yn ein cymunedau tlotaf heb fod yn cael chwarae teg.

Yn fyr, yn rhy aml po fwyaf yw’r angen i ardal fod ag ysgolion da, darpariaeth alwedigaethol ansawdd uchel a mynediad i gyfleoedd mewn cyflogaeth y lleiaf tebyg yw o ddigwydd. Mae hyn yn ganlyniad gwrthnysig y mae gwneuthurwyr polisi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ei ddeall yn dda, ond nid ydym yn siarad hanner digon amdano ag y dylem yng nghyswllt addysg. Ac mae’n rhaid i hyn newid.

Dengys ein dadansoddiad hefyd fod angen gweithredu ar frys ac mewn modd blaengar i adlewyrchu maint yr her. Mae eisoes enghreifftiau gwych o ymyriadau arloesol a llwyddiannus yn cynnwys yn ein colegau a sefydliadau trydydd sector fel Groundwork Cymru.

Mae ein Mynegai Cyfle Ieuenctid yn dangos yn glir bod pobl ifanc yn yr ardaloedd mwyaf amddifadus yn economaidd yng Nghymru yn fwy tebygol o fod â llai o gymwysterau, yn fwy tebygol o fod yn brin o sgiliau sylfaenol a gyda mynediad gwaelach i gyfleoedd astudio lefel uwch a chyflogaeth da. Nid loteri cod post yw hyn mewn gwirionedd, oherwydd nad mater o siawns ydyw. Mae’r patrwm yn glir a chyson ac yn un y medrir ei ragweld – byddai’n decach ei ddisgrifio fel cosb cod post.

Mae pobl yn angerddol tu hwnt wrth drafod effaith ysgolion preifat ar addysg wladol – a bu sylw tudalen flaen yn yr wythnosau diwethaf  i ddadleuon mawr am fraint a mynediad. Er bod hyn yn bwysig, pan ddaw i wneud Cymru yn wlad deg a llwyddiannus, mae’r ddadl honno – am nifer fach o bobl sy’n cael tocyn aur i’r prifysgolion gorau – yn rhannol yn tynnu sylw o bwysigrwydd mynd i’r afael ag anghydraddoldeb daearyddol dwfn iawn sy’n dal cymunedau llwyr yn ôl. Anaml iawn y rhoddir sylw i’r drafodaeth bwysicach hon. Yn blwmp ac yn blaen, bydd ardaloedd tlawd yn aros yn dlawd os na fedrwn wella lefelau addysg a sgiliau yn y cymunedau hynny.

Mae gan Gymru bob hawl i fod yn falch o’r llu o bethau rydym wedi eu cyflawni yn ugain mlynedd cyntaf datganoli. Bu gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, ac yn nifer y bobl sy’n gadael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau. Mae polisïau nad ydynt yn bodoli unrhyw le arall sy’n helpu disgyblion mewn cymunedau amddifadus. Ac eto mae anghydraddoldeb rhyng-genhedlaeth dwfn yn parhau’n ystyfnig a real. Wrth i bleidiau fynd i’r afael gyda brys Brexit, ni fedrir anwybyddu pwysigrwydd yr her yma. Erbyn etholiadau 2021, dylem ddisgwyl i’w maniffestos newydd ddangos i ni eu syniadau ar sut i ddatrys hyn.

Rydym angen adnabod cynnar ac ymyriadau gyda phobl ifanc sydd mewn risg o beidio cyflawni eu potensial. Rydym angen llwybrau galwedigaethol gwell ar gyfer y bobl ifanc hynny sy’n dewis peidio dilyn y llwybr academaidd. Ac rydym angen i Cymru’n Gweithio a Cymorth Gwaith Cymru dargedu’r ardaloedd lle mae’r angen mwyaf. Dyma sut y byddwn yn trechu’r anghydraddoldeb a gafodd ei drosglwyddo o un genhedlaeth ar ôl y llall. Ni all fod yn iawn yng Nghymru, ar ôl dau ddegawd o ddatganoli, bod lle cewch eich geni yn dal i benderfynu pa fath o addysg y gallwch ei disgwyl. Mae’n amser canolbwyntio ein hymdrechion ar drechu’r gosb cod post.

Ymchwiliwch y Mynegai Cyfle Ieuenctid Yma.