Ydych chi’n dymuno newid gyrfa? Yn gobeithio dysgu sgil newydd neu eisiau ailhyfforddi?
Gwnewch baned i’ch hunan ac ymuno â ni ar-lein i ganfod mwy am gymwysterau a fedrai fynd â chi yn y cyfeiriad cywir.
Dim yn siŵr ble i ddechrau? Bydd y sesiynau hamddenol ar-lein yma’n eich helpu drwy’r blociau adeiladau sydd yno i’ch helpu tuag at ddysgu pellach drwy 1,000 cwrs am ddim OpenLearn a rhaglenni gradd y Brifysgol Agored.
Cewch wybodaeth ar sut beth yw hi i ddysgu ar-lein ac o bell, pa gymorth astudio a chyllid sydd ar gael i bobl sy’n dewis astudio gyda’r Brifysgol Agored os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu eich sgiliau, cymryd camau tuag at yrfa newydd neu ddychwelyd i ddysgu am y tro cyntaf.
4-5pm | dydd Mawrth 12 Ionawr 2021
Astudio ar gyfer llwyddiant: Busnes, Rheolaeth a’r Gyfraith
4-5pm | dydd Mercher 13 Ionawr 2021
Astudio ar gyfer llwyddiant: Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Addysg, Ieuenctid a Chwaraeon
4-5pm | dydd Mercher 20 Ionawr 2021
Astudio ar gyfer llwyddiant: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg
4-5pm | dydd Mawrth 26 Ionawr 2021
Astudio ar gyfer llwyddiant: Celfyddydau, Dayniaethau, Gwyddorau Cymdeithasol, Seicoleg a Cwnsela