Ralph Handscomb

Gwobr Heneiddio’n Dda
Enwebwyd Gan: Dysgu Oedolion yn y Gymuned Merthyr Tudful

Inspire Awards - Ralph Handscombe, Merthyr Tydfil 27/08/2020

 

Bu Ralph Handscomb, sy’n dod o Ferthyr Tudful ac sydd wedi ymddeol, yn helpu pobl i chwilio am swyddi yn ystod y cyfnod clo, mae’n ddysgwr ac yn wirfoddolwr sy’n gweithio gyda Dysgu Oedolion yn y Gymuned Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn Y Coleg ym Merthyr ac yn y Ganolfan Gwaith a Mwy yn y dref.

Meddai Ralph: “Dwi wedi bod â diddordeb brwd mewn cyfrifiaduron erioed. Ond ar ôl pasio saith Lefel O yn y 70au, doedd dim llawer o gyfleoedd i mi yn y diwydiant, felly tyfodd fy niddordeb gryn dipyn ar ôl i ni gael ein cyfrifiadur desg cyntaf gartref yn 1996. Fues i’n mynd i ddosbarthiadau nos ac roeddwn i wedi synnu pa mor wahanol oedd hynny i’m profiad yn yr ysgol oherwydd fod pobl eisiau bod yno go iawn! Roedd yn brawf bod modd i chi barhau i ddysgu, yn eich amser eich hun ac o gwmpas ymrwymiadau teuluol.

Meddai Ralph: “Dwi wedi dod â’m sgiliau digidol i bob swydd dwi wedi’i gwneud, hyd yn oed fel gyrrwr bws roeddwn i’n helpu pawb yn y swyddfa i ddigideiddio ac ailwampio’r systemau llwybrau a thocynnau. Ar ôl ymuno â’r gwasanaeth sifil roedd y ffaith ‘mod i wedi gwneud dosbarthiadau nos a chael cymwysterau yn gyfrifol am dri dyrchafiad o fewn y gwasanaeth sifil ond ar ôl 18 mlynedd roedd hi’n bryd i mi ymddeol. Fe wnes i dreulio peth amser o amgylch y tŷ, ond roedd fy ngwraig am i mi wneud rhywbeth i lenwi’r amser – ac achos ‘mod i o dan draed.”

Aeth Ralph yn ôl i’r “ysgol” gan gwblhau’r Wobr mewn Addysg a Hyfforddiant (Lefel III), sydd nawr yn caniatáu iddo rannu ei sgiliau a’i brofiad drwy ei waith gwirfoddoli. Meddai:

“Dwi wedi mwynhau helpu pobl gyda chyfrifiaduron erioed. Yr hyn dwi’n ei hoffi yw’r foment honno pan mae’r cyfan yn clicio yn eu pen nhw neu pan maen nhw’n dweud yr ‘aaaa’ hynny sy’n dangos eu bod wedi sylweddoli faint o amser y gallan nhw ei arbed.”

Aeth Ralph ymlaen: “Mae dysgu wedi fy helpu i drwy gydol fy ngyrfa ac erbyn hyn dwi’n hapus iawn fy mod i’n gallu helpu eraill. Mae bron bopeth ar-lein erbyn hyn, a gall fod yn greulon i’r rhai sy’n teimlo’n ddihyder – mae hyd yn oed cofrestru yn y Ganolfan Waith i gyd yn ddigidol, yn ogystal â chwilio am swydd.

Dwi wrth fy modd yn gweld fy nysgwyr yn pasio ac yn magu hyder a gweld drysau’n agor iddyn nhw – yn bersonol ac yn broffesiynol. Unwaith mae’r fflam ddysgu wedi tanio ac yn llosgi mae’r dysgwyr yn sicr o gyflawni, a does dim ffordd o fesur y balchder dwi’n ei deimlo.”

Gwobr Heneiddio'n Dda wedi'i noddi gan:

  • Welsh Government
id before:6941
id after:6941