http://www.learningandwork.wales/wp-content/uploads/2020/09/Joseff-Gnagbo-Inspire-Winner-5-300x200.jpg

Joseff Gnagbo
Gwobr Dechrau Arni - Dysgwyr Cymraeg

Cafodd Joseff Gnagbo ei fagu ar y Traeth Ifori, ond bu’n rhaid iddo geisio lloches yng Nghaerdydd oherwydd aflonyddwch gwleidyddol yn ei wlad enedigol. Yna mewn ychydig dros flwyddyn, ar ôl ymroi o’i amser i drochi ei hun yn niwylliant Cymru, llwyddodd i ddod yn rhugl yn yr iaith ac mae bellach yn addysgu Cymraeg sylfaenol i geiswyr lloches eraill.

Meddai: “Roedd fy mamwlad o dan warchae ac roedd o’n frawychus. Roedd yna lawer o ymladd, felly roedd yn rhaid i fi ffoi i rywle diogel. Doeddwn i’n gwybod dim am Gaerdydd heb sôn am Gymru. Y cyfan roeddwn i wedi’i glywed oedd ei fod yn lle gwyrdd iawn, nad oedd gormod o bobl yma a bod y trigolion yn neis iawn.

“Dwi wedi byw ymhob cwr o’r byd ac wedi addo i fi fy hun y byddwn i bob amser yn dysgu iaith frodorol y wlad yr oeddwn ynddi.

Mae Joseff, a oedd yn gweithio fel ieithydd yng ngorllewin Affrica, yn siarad Ffrangeg, Swahili, Eidaleg, Rwsieg, Almaeneg ac Arabeg hefyd. Roedd mynd i Ganolfan Oasis yng Nghaerdydd y diwrnod ar ôl iddo gyrraedd Cymru yn help mawr, meddai, ynghyd â’r ap ‘Say Something in Welsh’ wnaeth ei diwtor awgrymu y dylai ddefnyddio. Dilynodd Joseff gyrsiau gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd hefyd, sy’n cael eu cynnal gan Brifysgol Caerdydd ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae Joseff bellach yn gweithio fel gofalwr, cyfieithydd ac athro, ac mae’n gwirfoddoli i Gymdeithas yr Iaith. Mae hefyd yn rhoi sesiynau blasu Cymraeg sy’n para hanner awr yng Nghyngor Ffoaduriaid Cymru – ar ôl i ddysgwyr gael awr o hyfforddiant Saesneg.

Aeth ymlaen i ddweud: “Roedd rhai o’m tiwtoriaid yn amheus am ychwanegu’r Gymraeg at y cyrsiau Saesneg. Roedden nhw’n meddwl y gallai ddrysu pobl. Ond gan fod cymaint o arwyddion yn Gymraeg a bod pobl yn siarad yr iaith, dwi’n meddwl ei bod yn bwysig gwybod y pethau sylfaenol, yn enwedig os ydych chi’n chwilio am waith neu os oes gennych chi blant sy’n mynychu ysgolion dwyieithog.

“Mae dysgu wedi rhoi cymaint o hyder i mi ac wedi dangos i mi ‘mod i’n dal i allu dysgu rhywbeth newydd. Treuni na wnes i ddechrau dysgu Cymraeg pan oeddwn i’n iau ond gyda gwaith caled ac ymarfer gall unrhyw ei wneud o. Dwi wrth fy modd gyda’r Gymraeg a dwi eisiau brwydro dros barhad yr iaith gymaint ag unrhyw Gymro brodorol. Mae’n bwysig i’r wlad a dylai barhau’n iaith fyw.

“Dwi am barhau i ddatblygu fy sgiliau ond hefyd am ddysgu mwy o ieithoedd Celtaidd fel Gaeleg a Chernyweg. Dwi wrth fy modd yn cerdded drwy’r canolfannau lle dwi’n gwirfoddoli a chlywed ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn dweud diolch!”